Llyfrau
Cyfraniad sylweddol i ddiwylliant y gwledydd Celtaidd
LANSIR cofiant Llydäwr di-ildio a orfodwyd i ffoi i Gymru ac yna’r Iwerddon yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth heno.
La Maison - The History of a Breton yw ail gyfrol Yann Fouéré. Bu’n un o sefydlwyr ‘Ar Brezhoneg er Skol’ yn 1934 er mwyn hyrwyddo dysgu Llydaweg a hanes Llydaw yn yr ysgolion ar adeg pan waharddwyd hynny gan Ffrainc.
Yn ystod y Rhyfel bu’n olygydd ar ddau bapur Llydewig, La Bretagne a Dépêche de Brest ac yn aelod o Comité Consultatif de Bretagne, corff ymgynghorol ar hawliau Llydewig a roddodd beth hawliau ym maes dysgu iaith a hanes Llydaw.
Gyda diwedd y Rhyfel arestiwyd miloedd o Lydäwyr oedd wedi bod yn weithgar mewn mudiadau ieithyddol a diwylliannol.
Yn yr hinsawdd yma ffodd Yann Fouéré i Baris ac yna i Gymru o dan basbort ffug. Yng Nghymru cafodd loches gan DJ Davies a’i wraig Noelle yn Y Fenni gan symud ymlaen i aros gyda Gwynfor Evans yn Llangadog, DJ Williams yn Abergwaun, Gwenallt yn Aberystwyth a’r diweddar Delwyn Phillips o Aberystwyth ond a oedd yn byw ym Mirmingham ar y pryd.
Er iddo ganfod gwaith yn dysgu Ffrangeg yn y Brifysgol yn Abertawe bu’n rhaid iddo ffoi unwaith eto i’r Iwerddon er mwyn osgoi cael ei gosbi gan y Ffrancwyr.
Canfyddodd ffoaduriaid Llydewig eraill yn yr Iwerddon ac yn y pendraw cydsefydlodd fusnes llwyddiannus yn ffermio ac allforio cimychiaid yn ardal Connemara yng ngorllewin y wlad.
Mae Yann Fouéré bellach yn 101 oed ac yn byw yn Sant Brieg, gefeilldref Aberystwyth. Yn 1958 fe’i difeiwyd gan lys ym Mharis o’r holl gyhuddiadau a wnaed yn ei erbyn yn dilyn y Rhyfel.
Mae ei gyfraniad i wleidyddiaeth a diwylliant Llydaw a’r gwledydd Celtaidd wedi bod yn sylweddol. Roedd yn gyfrannwr cyson i bapurau yn yr Iwerddon, Gwlad Belg a Phrydain (yn aml dan ffugenwau).
Ymhlith ei waith mwyaf adnabyddus a dylanwadol mae L’Europe aux Cents Drapeaux a gyhoeddwyd yn 1968 ac a chyfieithwyd i’r Saesneg fel Towards a Federal Europe yn 1980.
Ceir llawer o wybodaeth amdano ac erthyglau ganddo ar wefan Fondation Yann Fouéré: http://www.fondationyannfouere.org/
Cyfieithwyd La Maison – The History of a Breton gan ei ferch, Rozenn Fouéré Barrett. Ac fe’i cyhoeddir gan Old Chapel Press o’r Iwerddon. Bydd hi ai brawd, Erwan, yn y lansiad yn y Llyfrgell Genedlaethol. Arweinir y noson gan Dafydd Wigley. Dyma fydd un o’i ddigwyddiadau olaf fel Llywydd y Llyfrgell Genedlaethol.
? Lansiad La Maison – The History of a Breton, 6.30 nos Wener, 16 Medi, Y Drwm, Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth. Tocynnau am ddim: www.llgc.org.uk/drwm