Llyfrau

RSS Icon
16 Medi 2011

Ymateb sobreiddiol i ymweliad â Ground Zero

Y MIS yma, bydd Gwasg Bwthyn yn dathlu cyhoeddi cyfrol newydd o gerddi’r Prifardd Gerwyn Wiliams, un o feirdd amlycaf Cymru.

Mae Rhwng Gwibdaith a Coldplay yn cynnwys ymateb sobreiddiol yr awdur i’w ymweliad â Ground Zero, safle’r drychineb ddinistriol yn Efrog Newydd ddeng mlynedd yn ôl.

Mae cyfrol ddiweddaraf yr athro, sy’n gasgliad o gerddi gwers rydd o’r wyth mlynedd ddiwethaf, yn seiliedig ar brofiadau personol a digwyddiadau ym mywyd pob dydd y Prifardd o Fangor, ac yn cynnwys ei ymatebion i wahanol brofiadau yn ei hanes yn ystod y cyfnod hwnnw.

Mae rhywbeth at ddant pawb ymhlith y chwe deg o gerddi sydd yn y gyfrol hon, wrth i themâu’r telynegion bendilio’n hamddenol rhwng y llon a’r lleddf, y diniwed a’r difrifol, y chwerw a’r chwerthin, a’r digri a’r dagrau. Wrth i’r bardd gyfuno agweddau personol a gwleidyddol mae’n ein tywys i leoliadau rhyfeddol ym mhedwar ban byd – o Grafton Street i Barc Menai ym Mangor, ac o Belsen i Pont Aven.

Gall y darllenydd uniaethu â Gerwyn Wiliams wrth iddo sôn am ddiwylliant yr X Factor, am y profiad rhwystredig o fod mewn tagfa draffig ar gyrion dinas Bangor ac am ildio ambell waith i demtasiynau lliwgar McDonalds ar wyliau teuluol. Ond mae’r bardd yn rhoi hynt a helynt bywyd pob dydd mewn persbectif yn ei ymateb sobreiddiol i’w ymweliad â Ground Zero, safle’r World Trade Center yn Efrog Newydd.

Wrth sôn am y gyfrol dywed Gerwyn Wiliams: “Mae amryw o’r cerddi’n deillio o brofiadau teuluol – y plant yn tyfu ac yn prifio, o blentyndod i’r arddegau; gwyliau teuluol yng Nghymru a thramor; a digwyddiadau domestig, bob dydd.

“Mewn gwirionedd, mae llawer o’r darnau yn sôn am bethau sydd dan ein trwynau, profiadau sy’n gyffredin i’r rhan fwya’ ohonom ni, ac yn ceisio eu dal drwy’u cofnodi cyn iddyn nhw lithro drwy’n dwylo a diflannu.”

Disgrifia’r Prifardd ei gyhoeddiad diweddaraf fel “hen gnonyn aflonydd o gyfrol, un sy’n picio ac yn gwibio yma ac acw.”

“Mewn gair, holl baraffernalia bywydau cymysg a dryslyd ar ddechrau’r unfed ganrif ar hugain sydd ynddi. Mae hi wedi ei lleoli reit yng nghanol prysurdeb byw a bod y presennol,” ychwanega.

Yn wreiddiol daw Gerwyn Wiliams, sy’n darlithio yn Ysgol y Gymraeg Prifysgol Bangor, o Bwllheli, a mynychodd Ysgol Gyfun Llangefni, Ynys Môn ac Ysgol Uwchradd y Trallwng, Sir Drefaldwyn cyn mynd i Brifysgol Cymru, Aberystwyth lle y graddiodd yn y Gymraeg.

Daeth yn Brifardd ym 1994 wedi iddo ennill Coron Eisteddfod Genedlaethol Nedd a’r Cyffiniau gyda’i ddilyniant o gerddi, ‘Dolenni’, cyn cael ei wahodd i fod yn un o’r beirniaid ar y gystadleuaeth yn Eisteddfod Genedlaethol Maldwyn yn 2003 a’r Wyddgrug yn 2007.

Hon ydi’r bedwaredd gyfrol i Gerwyn Wiliams ei rhyddhau, a’r gyfrol greadigol gyntaf iddo ei hysgrifennu ers cyhoeddi Tafarn Tawelwch wyth mlynedd yn ôl.

Dyma gasgliad o gerddi a darnau grymus gan ŵr dawnus a bardd medrus, sy’n adlewyrchu holl agweddau prysurdeb a pharadocsau bywyd mewn cymdeithas fodern.

Rhannu |