Llyfrau

RSS Icon
25 Chwefror 2011

Ymgyrch rhoi llyfr yn anrheg


I DDATHLU Diwrnod y Llyfr 2011 mae Cyngor Llyfrau Cymru a chyhoeddwyr Cymru wedi dod ynghyd i gynnig llyfrau gwych am brisiau anhygoel, a fydd yn gwneud anrhegion perffaith i ffrindiau a theulu.

Bydd gostyngiadau sylweddol ar gael am gyfnod cyfyngedig ar nifer o lyfrau Cymraeg a Saesneg i oedolion a phlant.

Cafodd Diwrnod y Llyfr ei ddynodi gan UNESCO fel dathliad byd-eang o lyfrau a darllen, ac mae’n cael ei nodi mewn dros 100 o wledydd ym mhedwar ban byd.

Mae’r diwrnod yr ydym ni bellach yn ei ddathlu yn y Deyrnas Unedig ac Iwerddon â’i wreiddiau yng Nghatalonia, lle roedd rhosynnau a llyfrau yn cael eu rhoi yn anrhegion i anwyliaid ar Ddiwrnod y Llyfr – traddodiad sy’n dyddio’n ôl dros 90 mlynedd.

Mae Cyngor Llyfrau Cymru yn annog pawb i roi llyfr yn anrheg i rywun, gan fod angen i bob un ohonom ddarllen mwy, boed hynny ar ein pen ei hun neu gyda’n plant.

Meddai Elwyn Jones, Cyfarwyddwr Cyngor Llyfrau Cymru: “Mae Diwrnod y Llyfr yn ddathliad gwych o lyfrau a darllen, a pha ffordd well o ddathlu’r achlysur na rhoi llyfr yn anrheg i deulu a ffrindiau?

“Tynnwyd sylw at lefelau llythrennedd plant Cymru yn ddiweddar, a thrwy ganolbwyntio ar y pleser sydd i’w gael wrth ddarllen gallwn hefyd helpu i ddarparu’r sgiliau darllen ac ysgrifennu angenrheidiol i genhedlaeth newydd o blant.”

Beth am ymuno yn y dathlu a rhoi llyfr yn anrheg i rywun? Mae amrywiaeth eang o lyfrau ar gael am brisiau anhygoel. Bydd y gostyngiadau hyn ar gael o 21 Chwefror tan 5 Mawrth er mwyn dathlu Diwrnod y Llyfr, a gynhelir eleni ddydd Iau, Mawrth 3. I fachu bargen, ewch i’ch siop lyfrau leol neu cliciwch ar www.gwales.com

Ymhlith y digwyddiadau eraill a gynhelir i ddathlu Diwrnod y Llyfr yng Nghymru mae Sesiwn Stori Anferth i ysgolion cynradd, a bydd sawl wyneb cyfarwydd yn cefnogi’r ymgyrch ‘Gwnewch Amser i Ddarllen’.

 

Llun: Elwyn Jones

Rhannu |