Llyfrau

RSS Icon
25 Chwefror 2011

Merched yn trafod llyfrau Cymraeg


MAE Mudiad Merched y Wawr mewn cydweithrediad â’r Cyngor Llyfrau wedi sefydlu grwpiau trafod llyfrau Cymraeg. Ar hyn o bryd mae dros 30 o grwpiau wedi cychwyn ledled Cymru yn darllen a thrafod Llyfr y Mis.

Meddai Mererid Jones, Llywydd Cenedlaethol Merched y Wawr: “Fel Mudiad sy’n hyrwyddo addysg a diwylliant i ferched Cymru teimlwn hi’n ddyletswydd i hybu llenyddiaeth Gymraeg a rhoi cyfle i’n haelodau fwynhau darllen a thrafod llyfrau mewn awyrgylch anffurfiol a chyfeillgar.

Ychwanegodd Tegwen Morris, Cyfarwyddwraig y mudiad: “Blagurodd y syniad yma wrth i’r Llywydd Cenedlaethol ddewis y thema ‘Geiriau’ am y flwyddyn 2011, ac mae’n gyffrous gweld cynifer o ferched yn mwynhau cael trafodaeth fywiog ar draws Cymru.

“Wedi esblygu o’r syniad gwreiddiol, mae nifer o brosiectau cyffrous eraill ar y gweill, gan gynnwys, Tlws y Llenor a Thlws y Dysgwr yn yr Ŵyl Haf; prosiect casglu enwau; cwrs ysgrifennu creadigol yn Nhŷ Newydd; cyhoeddi llyfr ar y Mudiad a Sodlau’n Siarad. Hyn wrth gwrs yn ychwanegol i gyhoeddi cylchgrawn Y Wawr yn chwarterol. Mae’r thema ‘Geiriau’ yn boblogaidd iawn eleni.”

Rhannu |