Llyfrau

RSS Icon
25 Awst 2011

Marwolaeth a hiraeth ingol mewn nofel i blan

YN pwyso ar wal yr ysgol mae sawl tusw o flodau, teganau a chardiau gyda negeseuon dwys o’r galon.

Ddechrau’r haf gwelwyd sawl llun o’r fath ar y teledu ac mewn papur newydd wrth i gymunedau geisio dod i delerau â marwolaeth plant mewn amgylchiadau trasig.

Colli plentyn, colli disgybl ysgol, colli cyfaill mynwesol – dyma golled sy’n brifo i’r byw a gwelir y thema hon mewn nofelau a chyfrolau o farddoniaeth i oedolion.

Ond nid yw marwolaeth yn thema a ddaw i’r wyneb yn aml mewn nofelau i blant, am resymau amlwg.

Ceir anturiaethau llawn ffantasi, cyffro, creulondeb a lladd mewn ffilmiau a straeon i blant ond beth am y profiad poenus o golled a hiraeth?

Prin iawn yw’r teitlau hynny, yn enwedig yn y Gymraeg, ac wrth gyhoeddi Lowri Angel mae Gwasg Gomer yn cynnig nofel sensitif iawn i blant tua naw oed i fyny ar y themâu hyn.

Mae Cara wrth ei bodd yng nghwmni Lowri, ei ffrind gorau. Ond pan fo damwain drasig yn digwydd, all hi ddim credu nad yw Lowri yno mwyach.

Yn ferch benderfynol, nid yw Lowri’n gadael i fater bach fel marwolaeth i’w stopio hi rhag byw bywyd i’r eithaf.

Hyd yn oed os yw ei ffrind gorau mewn gwersi, allan yn rhedeg neu’n ceisio’i gorau glas i wneud ffrindiau newydd, mae Lowri’n gwneud yn siŵr fod Cara’n sylwi arni.

O weld tlysau amrywiol, addurniadau a lluniau o angylion mewn nifer o leoedd erbyn hyn, mae’n amlwg fod yna bresenoldeb ac arwyddocâd arbennig i’r angel ym mywydau pobl. Oes yna’r fath beth ag angel gwarcheidiol yn ein gwylio, tybed?

Dawn yr awdures Jacqueline Wilson yw ymdrin ag emosiynau plant a phynciau difrifol a phoenus yn ddifyr ond eto’n ysgafn yr un pryd.

Elin Meek o Abertawe addasodd Vicky Angel i’r Gymraeg, ac mae hi’n llwyddo i roi gwedd Gymreig i nofelau yr awdures boblogaidd.

Rhannu |