Llyfrau

RSS Icon
25 Awst 2011

Cymunedau’n dod at ei gilydd i hyrwyddo darllen a llythrennedd

MAE ymdrin â materion yn ymwneud â llythrennedd wrth wraidd cynllun sydd ar waith ar hyn o bryd yn rhai o Ardaloedd Adfywio Strategol Cymru. Mewn prosiect sy’n cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru a’i gydlynu gan Gyngor Llyfrau Cymru, mae deg ardal wedi eu clustnodi fel cymunedau darllen mewn cynllun arloesol i hyrwyddo darllen a llythrennedd ymhlith plant rhwng 7 ac 11 oed, eu teuluoedd a’r gymuned ehangach.

Y cymunedau yn ne a chanolbarth Cymru yw Tredegar; Rhydaman; Pontardawe; Gurnos, Merthyr; Penywaun, Aberdâr; Townhill, Abertawe, a Phenparcau, Aberystwyth. Y cymunedau yng ngogledd Cymru yw Ward Peblig, Caernarfon; Ward Gorllewin y Rhyl, a Llangefni.

Mae gan bob cymuned ei chydlynydd ei hun sy’n trefnu ystod o weithgareddau, yn cynnwys sefydlu clybiau darllen, trefnu sesiynau darllen dros frecwast, sefydlu rhwydwaith o wirfoddolwyr i weithredu fel ‘ffrindiau darllen’, trefnu gweithdai ar gyfer rhieni a gofalwyr er mwyn gwella eu sgiliau darllen ac adrodd stori, a dosbarthu taflenni o syniadau da ar gyfer rhieni, dan y teitl ‘Rho Amser i Ddarllen’.

Mae llawer iawn o waith wedi cael ei gyflawni yn ystod cam cyntaf y prosiect, ac y mae yna dystiolaeth eglur bod y gwaith yn dechrau dwyn ffrwyth.

Ar stad dai y Gurnos ym Merthyr, mae oedolion oedd cynt yn anfodlon cyfaddef bod arnynt angen help gyda’u sgiliau sylfaenol bellach wedi ymuno â’r rhestr o bobl sy’n aros am gymorth llythrennedd gan Louise Powell, cydlynydd y Gymuned Ddarllen.

Meddai Louise: “Mae’r Prosiect Cymunedau’n Darllen eisoes wedi dechrau agor drysau ar gyfer rhai aelodau o’n cymunedau lleol. Mae’r cynllun hwn yn ymestyn ymhell y tu hwnt i ffiniau annog pobl leol i ddarllen rhagor o lyfrau. Yn y Gurnos, ac mewn cymunedau eraill ar hyd a lled Cymru, mae’r prosiect hwn wedi effeithio ar les cymdeithasol ac economaidd pawb sy’n rhan ohono.”

Mae cydlynydd Cymuned Ddarllen Pontardawe yn pwysleisio gwerth y gwaith a wneir gan y cynllun yn yr ysgolion lleol.

Meddai Paul Doyle: “Mae prosiectau yn yr ysgolion wedi creu agwedd fwy bywiog a brwdfrydig tuag at lyfrau a darllen.

“Mae athrawon bellach yn fwy gweithredol wrth ddatblygu gweithgareddau darllen newydd, gan droi ataf i am gefnogaeth a chyngor ac i ysgogi gwaith newydd.

“Yn sicr, mae yna deimlad o fod yn fwy uchelgeisiol yn yr hyn y gallwn ei gynnig i’r plant, a gwerthfawrogiad o’r ffaith bod mwy yn cael ei gyflawni trwy gydweithio.”

Bu Melynda Standring, cydlynydd Cymunedau’n Darllen yn y Rhyl, yn casglu adborth gan y rhieni oedd wedi cymryd rhan yn rhai o’r gweithgareddau a drefnwyd ganddi hi.

O ganlyniad i’r gwaith a wnaed o fewn y Gymuned Ddarllen, dywedodd 80% o’r rhieni y byddent yn ‘gwneud rhagor o weithgareddau gyda’u plant er mwyn helpu eu darllen’, a dywedodd 100% ohonynt y byddent yn ‘darparu gwell esiampl i’w plant trwy ddarllen mwy eu hunain yn y cartref’.

O ganlyniad i ddigwyddiad ‘Ynys y Trysor’ yn Nhredegar, derbyniodd Damian Briggs, cydlynydd Cymunedau’n Darllen, neges oddi wrth riant disgybl ym Mlwyddyn 3 yn dweud bod ei mab bellach yn darllen yn llawer amlach nag y byddai, a’i fod yn awr yn darllen i’w frawd iau bob nos.

Dywedodd Leighton Andrews, y Gweinidog dros Addysg a Sgiliau: “Mae gwella llythrennedd wrth galon popeth rydym yn ei wneud i godi safonau a lefelau cyrhaeddiad. Rydym am i bob plentyn ddatblygu cariad at ddarllen, ac mae Cymunedau’n Darllen yn rhoi hyn ar waith.

“Gall darllen gyda phlentyn am ddim ond deng munud y dydd wneud gwahaniaeth aruthrol i’w allu a’i hyder.

“Gwelwn enghreifftiau o hyn yn dod allan o’r Cymunedau Darllen, gydag oedolion hefyd yn elwa ac yn ailddarganfod y manteision a’r pleser a geir o ddarllen.”

Ychwanegodd Elwyn Jones, Prif Weithredwr Cyngor Llyfrau Cymru: “Rydym yn awyddus i gefnogi pwyslais Llywodraeth Cymru ar lythrennedd er mwyn sicrhau bod plant ac oedolion drwy Gymru benbaladr yn cael cyfle cyfartal i ddatblygu eu sgiliau darllen.”

Mae pob un o gydlynwyr Cymunedau’n Darllen hefyd wedi bod yn cydweithio’n agos â’r RSVP (Rhaglen Gwirfoddolwyr wedi Ymddeol a Phobl Hŷn) i chwilio am wirfoddolwyr a sefydlu cynlluniau ‘ffrindiau darllen’ o fewn eu hardaloedd.

Dan y cynllun hwn, mae oedolion yn cael eu hyfforddi a’u helpu i gefnogi plant gyda’u darllen, a hynny trwy ymweld yn gyson ag ysgolion. Dylai unrhyw un sydd â diddordeb mewn bod yn wirfoddolwr gysylltu â Barbara Locke, Barbara@rsvpwales.fsnet.co.uk, 02920 390477.

Mae’r prosiect Cymunedau’n Darllen eisoes wedi dechrau agor drysau ar gyfer aelodau o’r cymunedau hynny, ac mae cyfle’n awr i adeiladu ar yr hyder newydd sydd wedi dechrau ei amlygu ei hun ymhlith y trigolion.

Rhannu |