Llyfrau

RSS Icon
25 Awst 2011

Dyddiadur difyr y naturiaethwr

MAE gan Iolo Williams fywyd prysur iawn fel naturiaethwr, ac fe gawn ei hanes i gyd yn y llyfr Blwyddyn Fan Hyn a Fan Draw (Gomer, £9.99), sef ei ddyddiadur personol ef yn ystod y flwyddyn 2010. Amlygir ei ddiddordeb mewn bywyd gwyllt yn y llyfr ond hefyd cawn hanesion am ei fywyd personol megis ei wyliau teuluol i Bangkok dros yr haf yn ogystal â hanesion ei fyd gwaith, gan gynnwys ei deithiau bythgofiadwy i America a Chanada i ffilmio cyfres efo’r llwythau brodorol i S4C.


Bywyd Gwyllt

Naturiaethwr yw Iolo Williams, ac mae’n amlwg yn rhan fawr iawn o’i fywyd. Mae’n bachu ar bob cyfle i gael profiadau gwerth chweil â natur, hyd yn oed os yw’n teithio yn y car ar y pryd!

Dywedodd Iolo: “Wrth yrru trwy dref Llandrindod, sylwais fod tua hanner dwsin o socanod eira yn bwyta aeron llwyni Cotoneaster yng ngerddi rhai o’r tai. Stopiais y cerbyd mewn lle diogel a cherddais yn ôl i’w gwylio!”

Mae Iolo wrth ei fodd efo’r tywydd, ac fe gawn ni ddisgrifiadau hudolus yn y llyfr, ‘Mae haen denau o eira yn gorchuddio’r caeau, a’r haul yn tywynnu mewn awyr las heb unrhyw gwmwl i’w weld yn unman.’

Erbyn hyn, mae natur yn rhan o waith Iolo ac mae’n teimlo’n lwcus iawn ei fod yn cael tâl am wneud beth mae o wrth ei fodd yn ei wneud.


Byd Teledu

Mae Iolo Williams wedi bod yn ymddangos ar y teledu yn aml iawn yn ddiweddar, ac mae ganddo lawer o straeon i gyd-fynd â’r rhaglenni. Un o’i deithiau mwyaf arwyddocaol oedd ei daith i America i ffilmio cyfres am y llwythau brodorol i S4C.

Cafodd Iolo daith ddiddorol dros ben, ond teimlai bod llwythau brodorol Canada mewn cyflwr gwell na’r llwythau yn America. Un o’r pethau mae Iolo’n ei fwynhau fwyaf yw eistedd mewn caffi yn sgwrsio dros baned a chacen. Yn sicr, fe gafodd o ddigonedd o amser i wneud hyn yng nghwmni Shan Cothi wrth ffilmio’r gyfres Bro ar gyfer S4C.

Mae Iolo yn hoff o ffilmio rhaglenni am fyd natur hefyd wrth gwrs, ond mae’n syndod sut mae Iolo’n dod o hyd i amser i ddygymod â’r holl ffilmio, yn enwedig pan nad yw rhai o’r anifeiliaid mae’n ceisio ei ffilmio yn fodlon cydweithredu! Dim ond wrth ddarllen ei lyfr y gallwn wir werthfawrogi gymaint o amynedd sydd ei angen ar naturiaethwr mewn byd teledu!

Ychwnegodd: “Wedi inni sicrhau bod popeth yn barod, roedd hi bron yn naw o’r gloch y bore, a doedd dim amdani ond eistedd yn amyneddgar ac aros.

“Ac aros, ac aros, ac aros. Erbyn un o’r gloch y prynhawn, a’r tymheredd un radd o dan y rhewbwynt ar ei uchaf, nid oedd un wiwer, heb sôn am ditw na phioden na llygoden wedi ymddangos. Dim byd o gwbl.”


Teulu a Bywyd Personol

Mae teulu yn bwysig iawn i Iolo, ac mae’n cynnwys ei deulu’n aml iawn yn ei lyfr. Mae’n gyndyn o orfod gadael ei deulu am dros ychydig wythnosau, gan ei fod yn colli bod adref efo’i blant a’i wraig.

Mae’n cael llawer o hwyl yn ystod y tywydd gaeafol wrth sledio yn yr eira efo’r plant, neu yn gorfod bod fel tacsi iddynt bob penwythnos wrth eu cludo i’r ymarferion lu o bêl-droed a rygbi.

Mae Iolo llawn edmygedd o’i wraig am fod yn asgwrn cefn i’r teulu, yn enwedig tra’i fod o i ffwrdd mewn gwledydd tramor yn ffilmio’i gyfres nesaf.

Er ei fod yn treulio digon o amser mewn gwledydd tramor ar ei ben ei hun, ac mae ganddo atgasedd tuag at feysydd awyrennau, mae’n mwynhau cymryd gwyliau teuluol. Fe aeth Iolo a’i deulu i Bangkok dros yr haf, ac fe gafodd pawb hwyl, yn cynnwys Dewi, ei fab yn mynd i blymio efo Iolo.

Hefyd, mae llawer o straeon doniol gan gynnwys atgof o barti gwisg ffansi, “Llogais wig ‘affro’ mawr, crys sidan porffor gyda choler anferth, a lliwiais fy wyneb a ‘nwylo’n ddu, a chefais fenthyg medallion aur i’w gwisgo ar frest flewog ffug.”

Ychwanegodd Iolo: “Cerddais i mewn i’r parti, ychydig yn amheus ar y dechrau rhag ofn nad oedd unrhyw un arall wedi gwisgo’n rhyfedd, ond roedd y lle dan ei sang o pync rocars, mods, ambell i Mary Quant, sheiks Arabaidd, Elton John, David Bowie, Freddie Mercury, Cher a phob aelod o’r grŵp Abba!”

Blwyddyn Fan Hyn a Fan Draw, Iolo Williams, Gwasg Gomer, £9.99

Rhannu |