Llyfrau

RSS Icon
25 Awst 2011

Nigel yn chwifio baner Cymru

MAE cael eich dewis i chwarae i’ch sgwad cenedlaethol yng Nghwpan Rygbi’r Byd yn orchest anghredadwy ond mae bod yn un o ddim ond 10 dyfarnwr yn y digwyddiad mawreddog byd-eang hwn yn fraint mawr ac yr un mor heriol. Bydd Nigel Owens yn chwifio baner Cymru ar hyd a lled Seland Newydd dros yr ychydig wythnosau nesaf fel un o ddyfarnwyr gorau ei genhedlaeth yn unrhyw le yn y byd. Mae Nigel yn ymddangos yn llyfr Cwpan Rygbi’r Byd 2011 a ysgrifennwyd gan Lynn Davies, sy’n cynnwys rhagair gan un o’r chwaraewyr rygbi gorau erioed, sef Gareth Edwards.

I gyrraedd y man hwn, a gafodd ei gadarnhau’n sicr ar ddiwedd mis Ebrill eleni, roedd rhaid i Nigel gael ei ddewis allan o rhestr o 20 a chael ei farnu’n un o’r gorau yn ei faes yn unrhyw le yn y byd. Roedd rhaid iddo fe, fel y chwaraewyr, fod yn hynod ffit a bydd mewn gwirionedd yn chwarae saith gêm (4 fel dyfarnwr a thri fel dyfarnwr wrth gefn) yn ystod camau cronfa Cwpan Rygbi’r Byd, sef tair yn fwy na’r chwaraewyr.

Fodd bynnag, nid yw’r pwysau’n gorffen gyda’r camau cronfa gan mai dim ond 6 dyfarnwr sy’n cael eu dewis i fynd ymlaen i’r camau olaf ac mae Nigel yn benderfynol na fydd ar yr awyren gynnar adref.

Dywedodd Nigel: “Byddaf yn cyrraedd Seland Newydd rhyw wyth diwrnod cyn y gêm gyntaf a byddaf yn mynd a dod o ystafelloedd gwestai o Auckland i Wellington, a phob man arall yn y canol i ddweud y gwir. Mae’n anrhydedd i gael y cyfle i fod yn ddyfarnwr unwaith eto yng Nghwpan Rygbi’r Byd ac mae cael fy newis yn ddigon ynddo ei hun. Fel dyfarnwyr ac ystlyswyr rydym yn dod ymlaen yn dda gyda’n gilydd, gan gynnwys fy nghyd Gymro Tim Hayes, ac rydym yn dîm go iawn, ond does dim lle i fod yn hunanfodlon ac rwy’n benderfynol o gyrraedd y camau olaf, yn union fel tîm Cymru!”

I’r rheini sy’n awyddus i ddilyn a chofnodi cynnydd eu hoff dîm pan fydd y gystadleuaeth yn cychwyn ym mis Medi mae’r llyfr yn cynnwys siart o’r holl gêmau a chwis Cwpan Rygbi’r Byd yn rhad ac am ddim. Mae’n cynnwys rhestr ddadansoddol am yr holl dimau sy’n cystadlu yn y pedwar grŵp terfynol yn ogystal ag enw ambell chwaraewr y dylid cadw golwg arno ym mhob tîm yn y gystadleuaeth. Mae Cymru yng Ngrŵp 4, ynghyd â Samoa, Ffiji, Namibia, a De Affrica.

Cafodd cystadleuaeth Cwpan Rygbi’r Byd, sy’n digwydd bob pedair blynedd, ei chynnal a’i churo am y tro cyntaf gan Seland Newydd ym 1987. Bedair blynedd ar hugain yn ddiweddarach, wrth i’r gystadleuaeth ddychwelyd i gartref y Crysau Duon, mae’r twrnamaint agoriadol hwnnw yn parhau i fod y perfformiad gorau gan dîm Cymru yn y Cwpan. Daeth Cymru yn drydydd, ar ôl trechu Awstralia 21-20.

Er i Gymru fethu mynd allan o’r rowndiau rhagbrofol yn 2007, mae’r ffaith ei bod wedi gorffen yn y tri uchaf yn ei grŵp yn golygu eu bod nhw’n ennill lle yng Nghwpan 2011 yn awtomatig. Serch hynny, tydi pethau ddim yn edrych yn addawol, gan i Gymru golli i Seland Newydd, De Affrica ac Awstralia yng ngêmau rhyngwladol Hydref 2010. Ar hyn o bryd mae tîm Cymru yn 7fed yn nhabl y Bwrdd Rygbi Rhyngwladol, gan ennill eu safle uchaf erioed pan fuont yn 4ydd yn 2009, a’r gwaethaf erioed yn 2007 pan fuont yn 10fed.

Mae Cymru wedi chwarae ym mhob Cwpan y Byd ers 1987. Ym 1991 a 1995 methodd Cymru â mynd y tu hwnt i’r rowndiau rhagbrofol gydag un fuddugoliaeth yn unig yn y ddwy gystadleuaeth. Bu gwellhad yn 1999 wrth i dîm Cymru sicrhau lle yn rownd yr wyth olaf, â’r un canlyniad yn 2003. Bedair blynedd yn ôl, siom gafodd Cymru wrth i’r tîm cenedlaethol orffen yn drydydd yn eu grŵp wedi i Ffiji a Seland Newydd eu trechu.

Cwpan Rygbi’r Byd 2011, Lynn Davies, Y Lolfa, £4.95

Rhannu |