Llyfrau
Penwythnos diddorol i ddarllenwyr ac awduron
Mae Gŵyl Lyfr Penfro yn ddigwyddiad newydd a chyffrous yng nghalon gorllewin Cymru.
Mae’r ŵyl hon yn rhoi cyfle gwych i awduron, darllenwyr, cyhoeddwyr a llyfrwerthwyr i gyfarfod a mwynhau amrywiaeth o ddigwyddiadau.
Rhwng y stondinau llyfrau, canlyniadau cystadlaethau, gweithdai a sgyrsiau mae’n argoeli fel diwrnod difyr i bawb.
Bydd derbyniad agoriadol yng nghmwni Ffrindiau Rhosygilwen am 7yh nos Sadwrn, 17 Medi, ac yn dilyn hynny am 7.30yh bydd Sesiwn Holi Perfedd yng nghwmni Caryl Lewis, Ceri Wyn Jones, Fflur Dafydd a Gwen Davies.
Dyma gyfle i glywed pedwar ffigwr llenyddol dylanwadol yn trin a thrafod eu cefndir a’u cynefin a’u crefft.
Gyda nifer o sgyrsiau a thrafodaethau difyr eraill yn Gymraeg a Saesneg gydag awduron megis Trevor Fishlock, Jo Verity, Patrick McGuinness, Tony Curtis a Gillian Clarke, mi fydd hwn yn benwythnos diddorol tu hwnt.
Am fwy o wybodaeth ewch i www.penfrobookfestival.com