Llyfrau

RSS Icon
25 Chwefror 2011

Galw ar dadau i ddarllen i’w plant


MAE Diwrnod y Llyfr yn prysur agosáu, ac mae Cyngor Llyfrau Cymru yn gweithio gyda Llywodraeth y Cynulliad i annog rhieni, gofalwyr, a neiniau a theidiau i ddarllen i’w plant, yn enwedig y bechgyn. Dangosodd arolwg diweddar o dros 17,000 o bobl ifanc gan yr Ymddiriedolaeth Lythrennedd Genedlaethol (2008) bod 39% o ferched yn darllen bob dydd o’i gymharu â dim ond 28% o fechgyn, a bod y bwlch yma wedi tyfu ers 2005.

Mae’r Cyngor Llyfrau yn galw ar dadau i gydio mewn llyfr a darllen i’w plant, a gyda hwy – yn enwedig eu meibion. Dyma rai o’r cynghorion sydd ganddynt i dadau: neilltuo deg munud bob dydd ar gyfer darllen, dewis llyfrau sy’n addas i oedran y plentyn, gadael i’r plentyn ddewis beth i’w ddarllen, a thrafod yr hyn sy’n cael ei ddarllen. Mae llawer o fechgyn a’u tadau yn hoffi darllen deunydd ffeithiol, sy’n gallu cynnwys llyfrau, cylchgronau, gwefannau, rhaglenni gemau pêl-droed, adroddiadau chwaraeon, llyfrau sy’n rhoi cyfarwyddiadau sut i wneud pethau, a llyfrau straeon stribed neu gomics.

Gall plant elwa’n fawr pan fydd oedolion yn siarad gyda hwy am beth maent yn hoffi ei ddarllen, ac mae diddordebau a rennir gan blant ac oedolion yn aml yn sylfaen dda ar gyfer darllen ar y cyd. Mae llawer o dadau hefyd yn dda iawn am ddod â straeon yn fyw, drwy ddynwared y cymeriadau ac annog y plant i helpu i adrodd y stori gyda hwy.

Yn ôl Jane McCarthy, Ymgynghorydd Datblygu Bro Morgannwg sydd â chyfrifoldeb am lythrennedd: “Mae’n ddifyr gweld bod lefelau llythrennedd plant a’u hysgogiad i ddarllen yn cynyddu’n sylweddol pan fydd eu tadau neu ofalwyr sy’n ddynion yn cyfrannu at y darllen. Maent yr un mor bwysig â mamau o safbwynt annog plant i fwynhau darllen, ac efallai hyd yn oed yn fwy yn achos bechgyn, gan eu bod yn rhoi esiampl bwysig iddynt. Gellid ystyried darllen yn weithgaredd llonydd sy’n fwy addas i ddiddordebau merched, ond os bydd bechgyn ifanc yn gweld eu tadau yn mwynhau darllen, bydd hynny’n help iddynt sylweddoli y gall darllen fod yn weithgaredd llawn mwynhad i bawb.”

Meddai Delyth Humphreys, sy’n cydlynu Diwrnod y Llyfr yng Nghymru: “Gall y profiad o ddarllen i blant weithio’r ddwy ffordd, gyda manteision i’r plentyn a’r rhiant, ac ni ellir gorbwysleisio pwysigrwydd tadau yn rhoi esiampl i’w plant wrth ddarllen.”

 

Llun: Mae'r chwaraewr rygbi Aled Brew a'i fab yn cefnogi'r ymgyrch Gwnewch Amser i Ddarllen

Rhannu |