Llyfrau

RSS Icon
25 Chwefror 2011

Sêr yn rhoi amser i ddarllen


MAE dathliadau Diwrnod y Llyfr 2011 yn cychwyn o ddifri yr wythnos hon, gyda nifer o ddigwyddiadau yn cael eu cynnal ledled Cymru wrth inni agosáu at y diwrnod mawr ei hun ar 3 Mawrth. Yn rhan o ddathliadau Diwrnod y Llyfr, mae sawl wyneb cyfarwydd yn cefnogi ymgyrch Llywodraeth Cynulliad Cymru i godi safonau llythrennedd, sef Rho Amser i Ddarllen.

Mae’r ymgyrch wedi sicrhau cefnogaeth gan rai o arwyr amlycaf byd chwaraeon Cymru yn ogystal â nifer o wynebau cyfarwydd gan gynnwys Shane Williams, Angharad Mair a Betsan Powys, ac mae pob un ohonynt yn nodi pa mor bwysig yw darllen fel sgil ar gyfer bywyd, ynghyd â phwysigrwydd trosglwyddo’r gallu i ddarllen i’r genhedlaeth nesaf.

Prif nod yr ymgyrch Rho Amser i Ddarllen yw ysbrydoli rhieni i roi deg munud y dydd i ddarllen i’w plant. Yn ôl gwaith ymchwil a gynhaliwyd gan Lywodraeth y Cynulliad, mae 43% o blant yn dweud bod darllen yn tanio eu dychymyg, ac 8 o bob 10 plentyn yn teimlo’n falch wrth iddynt orffen darllen llyfr.

Mae’r angen i ysbrydoli rhieni i ddarllen i’w plant yn cael ei danlinellu gan yr Ymddiriedolaeth Llythrennedd Genedlaethol, a ddangosodd yn 2008 bod 39% o ferched, ar gyfartaledd, yn darllen bob dydd, o’i gymharu â dim ond 28% o fechgyn – bwlch sydd wedi cynyddu flwyddyn ar ôl blwyddyn er 2005.

Er mwyn dathlu Diwrnod y Llyfr ar 3 Mawrth – sef y dathliad blynyddol mwyaf o lyfrau a darllen – mae cefnogwyr Rho Amser i Ddarllen wedi dewis eu hoff lyfr Cymraeg er mwyn dathlu Dydd Gŵyl Dewi ac ysbrydoli eraill i ddarllen.


Yn ôl Betsan Powys, Golygydd Gwleidyddol BBC Cymru, a mam:

“Mae darllen ac ysgrifennu yn ddau o’r sgiliau mwyaf sylfaenol sy’n rhan o’m gwaith fel darlledwr, ond maent yn sgiliau pwysig er hynny. Fodd bynnag, mae’n bleser dod adref o’r gwaith a darllen gyda fy mhlant amser gwely, neu wrando arnynt yn darllen; dyna fy hoff ran o’r diwrnod.

“Mae’n amser agos ac arbennig iawn rhyngom ni, ond mae hefyd yn weithgaredd gwerth chweil er mwyn gwella eu sgiliau darllen. Fy hoff lyfr Cymraeg yw Hanes Cymru gan John Bwlchllan. Byddwn i’n annog pawb i’w ddarllen gan ei fod yn gofnod difyr, deifiol a gwerthfawr o hanes Cymru. Pe byddai’n rhaid i’m plant ddewis eu hoff stori amser gwely, byddent yn sicr o ddewis Bechgyn Stryd Gul gan Allan Ahlberg a Janet Ahlberg (cyfieithiad Gruff Roberts).”

Yn ôl Eleri Sion, cyflwynydd ar BBC Radio Cymru a mam i Alffi:

“Fel mam newydd, rwy’n gwerthfawrogi pa mor bwysig yw treulio amser yn darllen i’ch plant. Mae Alffi’n dal i fod yn ifanc iawn ond rwy’n treulio amser yn darllen gyda fe am gyhyd ag y mae’n fodlon aros yn llonydd. Dim ond naw mis oed yw e, ond mae’n anhygoel ei wylio’n ceisio darllen wrth droi’r tudalennau. Ei hoff lyfr ar hyn o bryd yw Bwyd i’r Bwlis, sy’n un o gyfres o lyfrau wedi’u lleoli ym Mharc Thompson, Caerdydd, wedi’u hysgrifennu gan fy mrawd, Meilyr Sion.

“Mae wrth ei fodd yn edrych ar y cymeriadau bach ac rwy’n dwlu ei wylio’n ymateb i’r gwahanol leisiau yr wy’n eu dynwared. Fel darlledwr rwy’n darllen papurau newydd a newyddion ar y we pan gaf fi amser, ond ers cael Alffi rwyf wedi troi at ddarllen llyfrau yn hytrach na gwylio teledu am ryw reswm, gan fy mod yn teimlo bod hynny’n fy ymlacio yn well.”


Yn ôl Angharad Mair, cyflwynydd Wedi 7 a mam i ddau o blant:

“Rwy’n ddarllenwraig frwd, ac rwy’n gobeithio fy mod wedi ennyn yr un diddordeb yn fy nwy ferch, Tanwen ac Efa.

“Roeddwn i’n arfer darllen yn aml iddynt pan oeddent yn iau, ac erbyn hyn maent yn mwynhau darllen ar eu liwt eu hunain a dewis eu llyfrau eu hunain i’w darllen.

“Fy hoff lyfr Cymraeg yw Petrograd gan Wiliam Owen Roberts. Mae gan y nofel epig hon, sydd wedi’i gosod yng nghyfnod Chwyldro Rwsia, gefndir hanesyddol hynod o ddifyr, ond yn y pen draw, stori am bobl yw hi, a sut maent yn ymdopi â’r anawsterau lu a ddaw i’w rhan.

“Enillodd wobr Llyfr y Flwyddyn yn 2009 ac mae’n sicr yn haeddu’r holl ganmoliaeth a gafodd. Rwy’n annog unrhyw un sydd heb ddarllen y nofel i wneud hynny.”


Yn ôl Shane William, chwaraewr rygbi gyda thimau Cymru a’r Gweilch a thad i ddau o blant:

“Pan oeddwn i’n blentyn roeddwn i’n arfer darllen llawer iawn – y llyfrau cynharaf imi eu darllen oedd rhai Sali Mali.

“Y dyddiau hyn rwy’n mwynhau llyfrau am ffilmiau ac rwy’n darllen llawer ar y we. Dydych chi ddim yn sylweddoli faint o ddarllen rydych chi’n ei wneud bob dydd. Pan fyddwn ni’n teithio’r byd yn chwarae rygbi, does dim ffordd well o dreulio amser na chydio mewn llyfr da.”


Yn ôl Aled Brew, chwaraewr rygbi gyda thimau Cymru a’r Dreigiau:

“Fel tad rwy’n mwynhau darllen i’m plant, ac fe fyddwn ni’n darllen llyfrau Cymraeg yn ogystal â rhai Saesneg. Fy hoff lyfrau Cymraeg i blant yw cyfres Alun yr Arth gan Morgan Tomos gan eu bod yn wych i’w darllen i’r plant.

“Ar hyn o bryd mae fy mhlant wir yn mwynhau darllen storïau y Gryffalo amser gwely.

“Ar hyn o bryd rwy’n darllen Grav In His Own Words, sef cyfrol hunangofiannol am y diweddar Ray Gravell, ac rwy’n cael blas mawr arni.”


Yn ôl Joe Allen, chwaraewr pêl-droed gyda thimau Cymru ac Abertawe:

“Rwy’n falch iawn fy mod wedi cael fy newis ar gyfer posteri hyrwyddo Diwrnod y Llyfr 2011 yng Nghymru, yn ogystal â chymryd rhan yn y digwyddiad darllen a chwaraeon Diwrnod y Llyfr yn Stadiwm Liberty yr wythnos diwethaf, yn annog dros 500 o blant lleol i ddarllen.

“Rwy’n darllen llawer o gylchgronau pêl-droed yn ogystal â defnyddio’r we ar fy ffôn i gael gwybod y newyddion pêl-droed diweddaraf.Pe byddai’n rhaid i mi ddewis fy hoff lyfr byddwn yn dewis Gweld Sêr: Pêl-droedwyr Gorau Cymru o’r 60au Hyd Heddiw gan Ian Gwyn Hughes gan ei bod yn wych cael darllen am yr holl bêl-droedwyr enwog o Gymru o’r 1960au hyd heddiw.”


Yn ôl Nigel Owens, dyfarnwr rhyngwladol rygbi’r undeb, cyflwynydd teledu a digrifwr:

“Rydw i wrth fy modd yn darllen gan ei fod yn help i mi ymlacio a dadflino. Mae hefyd yn wych wrth imi deithio i gêmau, er mwyn fy helpu i ganolbwyntio a thawelu’r nerfau.

“Fy hoff lyfr Cymraeg yw Non: Yn Erbyn y Ffactore gan Non Evans ac Alun Gibbard gan ei fod yn rhoi cip inni ar fyd chwaraeon menywod a’r modd y mae Non wedi gorfod brwydro mewn byd o ddynion. Mae’n stori sy’n llawn ysbrydoliaeth i ddynion a menywod fel ei gilydd.”


Yn ôl Roy Noble, cyflwynydd ar BBC Radio Wales, a thad a thad-cu:

“Mae gan bawb stori i’w rhannu ac mae’r hen chwedlau llafar bellach wedi’u cofnodi mewn llyfrau i’w cadw o un oes i’r nesaf.

“Mae llyfrau’n caniatáu i bob un ohonom ymweld â’n bydoedd dychmygol ein hunain, a phan fydd yr hen a’r ifanc yn teithio i fyd y dychymyg gyda’i gilydd mae’r pleser hyd yn oed yn fwy.

“Fy hoff lyfr ar hyn o bryd yw Byw yn y Wlad: Y Ffotograffydd yng Nghefn Gwlad 1850–2010 gan Gwyn Jenkins gan ei fod yn llyfr bendigedig yn llawn ffotograffau a chapsiynau sy’n portreadu’r Gymru wledig o ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg hyd heddiw.”

Felly, os ydych chi wedi cael eich ysbrydoli i ddarllen mwy, beth am fynd draw i www.gwales.com i ddarganfod yr holl lyfrau hyn a llawer mwy? Mae gostyngiadau gwych ar gael i ddathlu Diwrnod y Llyfr 2011 felly peidiwch â cholli’r cyfle i fachu bargen – ewch i http://bit.ly/diwrnodyllyfr am wybodaeth bellach. I ddysgu mwy am yr ymgyrch Rho Amser i Ddarllen ewch i www.darllenynwell.co.uk

 

Lluniau: Shane WIlliams ac Angharad Mair

Rhannu |