Llyfrau
Chwedlau ar y cledrau!
Fel rhan o ymgyrch @LlyfrDaFabBooks, bydd Cyngor Llyfrau Cymru yn trefnu taith awdur wahanol iawn ym mis Ebrill.
Ar deithiau diweddar bu awduron fel Llŷr Titus, Meleri Wyn James a Siân Lewis yn ymweld ag ysgolion ledled Cymru, ond y tro hwn caiff y disgyblion gyfle i gwrdd â’r awdur ar daith drên!
Y disgyblion ffodus fydd plant adrannau iau Ysgol Bro Hyddgen, Machynlleth ac Ysgol Tan y Castell, Harlech.
 2017 wedi ei chlustnodi’n Flwyddyn y Chwedlau gan Lywodraeth Cymru, yr awdur a fydd yn eu diddanu fydd Meinir Wyn Edwards, awdur y gyfrol Deg Chwedl o Gymru a gyhoeddir gan wasg y Lolfa, ac sydd wedi ei chynnwys ar restr fer Gwobrau Tir na n-Og eleni.
Ar 3 a 4 Ebrill bydd Meinir yn cynnal gweithdai arbennig ar y cledrau, gan gyflwyno rhai o’n chwedlau mwyaf adnabyddus sydd wedi profi’n boblogaidd iawn yn ei chyfrolau Cymraeg a Saesneg.
Caiff y disgyblion gyfle i ddysgu am ein treftadaeth lenyddol a diwylliannol mewn ffordd ddifyr a hwyliog wrth iddynt brofi chwedlau sy’n perthyn i’w hardaloedd eu hunain.
Yn ystod y deuddydd, bydd y teithiau’n ymweld â MOMA, sef yr amgueddfa gelfyddyd fodern ym Machynlleth, a chastell Harlech.
Prosiect ar y cyd yw hwn gyda Threnau Arriva Cymru.
Mae Swyddog Cyswllt Ysgolion Trenau Arriva Cymru, Phil Caldwell, wedi arfer gweithio’n agos gydag ysgolion a llyfrgelloedd yr ardal, a bydd y daith awdur rhwng Machynlleth a Harlech yn gyfle iddo godi ymwybyddiaeth ymhellach ynglŷn â diogelwch a gwasanaeth y rheilffordd.
Bydd y golygfeydd yn sicr yn werth eu gweld – y llynedd fe ddewiswyd y daith o Gyffordd Dyfi i Bwllheli gan bapur newydd y Guardian yn un o 10 taith drên fwyaf ‘epig’ y byd!
Yn ôl Helen Jones o’r Cyngor Llyfrau: “Un o brif amcanion yr Adran Llyfrau Plant yw hyrwyddo darllen, ac mae ein cynllun @LlyfrDaFabBooks yn cynnal teithiau awduron i ysgolion ledled Cymru er mwyn hyrwyddo a chodi proffil llyfrau i blant a’r arddegau.
"Bu’r rhain yn hynod o boblogaidd hyd yma, ac mae’n fwriad gennym ymestyn y cynllun yn y dyfodol.
"Mae’r teithiau yn gyfle gwych i ni gefnogi addysgu a dysgu darllen yn ein hysgolion mewn ffordd ymarferol.”
Llun: Meinir Wyn Edwards