Llyfrau

RSS Icon
25 Chwefror 2011

Sesiwn stori fwyaf erioed


MAE pedair stori wedi’u comisiynu a’u darlunio’n arbennig ar gyfer Diwrnod y Llyfr 2011.

Bydd PODLEDIAD o’r storïau, yn cael eu darllen gan Iwan John, uchod, ar y wefan http://bit.ly/diwrnodyllyfr. Y gobaith yw y bydd nifer dda o ysgolion yn gwylio neu yn darllen y storïau ar Ddiwrnod y Llyfr – 3 Mawrth 2011 – er mwyn ymuno yn y sesiwn stori fwya erioed!


Manylion am y storiau:


Stori Gymraeg ar gyfer plant 7 i 9 oed

Y Daten Ddieflig Ddrwg gan Morgan Tomos

Mae’r Daten Ddieflig Ddrwg a’i bryd ar reoli’r byd! Gyda help ei byddin o domatos coch, deg taten arall a dwy sosej, mae pethau’n edrych yn addawol ond yna . . . daw’r fforc i newid trywydd y stori!


Stori Gymraeg ar gyfer plant 9 i 11 oed

Hunangofiant Bachgen Drwg gan Nicholas Daniels

Mae’r disgyblion drwg yn cael eu hanfon i lyfrgell yr ysgol er mwyn ‘callio’. Mae eu troseddau’n amrywio ond dim ond un ohonyn nhw fydd yn elwa o’r ‘Cyfnod Callio’. Pwy fydd hwnnw, tybed? Beth oedd wedi’i wneud o’i le, a beth fydd yn ei ddarganfod yn y llyfrgell?


Stori Saesneg ar gyfer plant 7 i 9 oed

The Sleeper gan Ruth Morgan

Beth yw cyfrinach y cerflun pren rhyfedd sy’n eistedd mewn bocs yn neuadd yr ysgol? A oes ganddo’r gallu i droi breuddwyd yn ffaith? A fydd bywyd yr ysgol yn newid am byth o’i achos, a pham mae’r arolygwyr wedi’i anfon i’r ysgol yn y lle cyntaf?


Stori Saesneg ar gyfer plant 9 i 11 oed

Go, Charlie Hide, Go! gan Paul Manship

Bachgen bach ofnus iawn yw Charlie Hide, a does neb yn ei gredu pan fydd yn honni ei fod yn arwr o fri! Ond pan ddaw Molock, yr anghenfil sy’n byw yn y gamlas, i fygwth disgyblion yr ysgol, caiff Charlie gyfle i brofi ei allu anhygoel!

 

Llun: Nicholas Daniels

Rhannu |