Llyfrau

RSS Icon
25 Chwefror 2011
Karen Owen

Mam yn dysgu gwerth llyfrau o’r newydd


MAE Sharon Owen, gweinyddydd Y Clwb Llyfrau, wedi dysgu gwerth llyfrau o’r newydd ers dod yn fam. Ers mis Medi 2009, hi sy’n gyfrifol am ddewis y llyfrau sy’n cael eu cynnwys yng nghylchgrawn y Clwb sy’n cael ei anfon i dros 500 o ysgolion bob tymor.

Mae cyfle gan ddisgyblion i brynu llyfrau o’r cylchgrawn, cael ambell fargen, yn ogystal ag ennill gwobrau i’w hysgolion yr un pryd.

“Dw i’n meddwl fy mod i wedi gweld pa effaith mae llyfrau yn ei gael ar blentyn, ac wedi sylweddoli o’r newydd mor bwysig ydi mwynhau stori, dim ots faint o weithiau mae plentyn yn clywed y stori honno,” meddai Sharon, sy’n fam i Gethin sy’n 5 oed, a Iago sydd bron yn flwydd.

“Mae’r llyfrau sy’n cael eu dewis ar gyfer y cylchgrawn yn destun trafodaeth efo’r cyhoeddwyr, i weld pa lyfrau sy’n newydd a fwyaf addas ar gyfer bob rhifyn. Mae tua 80-90 o lyfrau yn cael eu cynnwys bob tymor.

“Y gobaith ydi fod pob teulu’n derbyn copi o gylchgrawn Y Clwb Llyfrau bob tymor, gan ein bod ni’n dosbarthu pecyn i bob ysgol Gymraeg, sef dros 500 o ysgolion, dair gwaith y flwyddyn.”

Yr ysgol sy’n gyfrifol am archebu’r llyfrau gan Gyngor Llyfrau Cymru, ar ôl casglu’r archebion a’r arian gan y plant. Mae’r Cyngor yn postio’r llyfrau yn ôl i’r ysgol o fewn pum diwrnod.

Ar wahân i’r cylchgrawn sy’n mynd i bob ysgol gynradd, mae taflen yn cael ei hanfon i Gylchoedd Meithrin sydd wedi eu cofrestru gyda Mudiad Ysgolion Meithrin, yn ogystal â thaflen arall i ysgolion uwchradd.

Mae’r un drefn archebu a phrynu yn berthnasol iddyn nhw i gyd.

“Y tymor dwytha, mi werthon ni 7,100 o lyfrau, sy’n dda iawn,” meddai Sharon. “Os fasa pob disgybl wedi prynu un llyfr yr un, mae hynny’n golygu fod dros 7,000 o blant wedi prynu llyfr… neu 7,000 o deuluoedd wedi prynu llyfr.

“Mae hynny’n dangos fod Y Clwb Llyfrau yn cyrraedd lot o bobol, ac yn mynd â llyfrau at rai na fasa’n prynu fel arall.

“Mae’r Pecyn Syrpreis bob tymor wedi bod yn boblogaidd iawn, sef pecyn o lyfrau amrywiol am £5. Does gan y plant ddim syniad be’ sydd yn y pecyn tan eu bod nhw’n ei agor o... mae’n syniad sydd wedi bod yn boblogaidd iawn.”

Fe all ysgolion hefyd fod ar eu hennill o annog plant i brynu llyfrau o’r Clwb Llyfrau. Os ydi ysgol unigol yn llwyddo i gynyddu eu harcheb y tymor hwn o 10% o gymharu â’r un tymor y llynedd, fe allen nhw ennill sesiwn gan Fardd Plant Cymru.

“Ac os ydi ysgol yn llwyddo i roi archeb gwerth dros £100 am dri thymor yn olynol, fe gawn nhw werth 100 o lyfrau am ddim.

“Wrth gwrs, nid llyfrau yn unig sydd ar gael yn Y Clwb Llyfrau,” meddai Sharon Owen, “ond pob math o bethau, yn CD-Roms neu’n gêmau bwrdd, sy’n ymwneu â’r byd darllen, yn cynnwys cymeriadau fel Sam Tân a Sali Mali, ac yn annog plant i ddefnyddio eu sgiliau darllen.”

Rhannu |