Llyfrau

RSS Icon
13 Rhagfyr 2016

Cadw’r cof yn fyw am chwaraewyr pêl-droed Cymru

MAE llyfr newydd a gyhoeddir yr wythnos yma yn bwrw golwg unigryw ar chwarewyr pêl-droed rhyngwladol Cymru trwy lygaid cefnogwr sydd wedi dilyn y tim cenedlaethol er 1955 er mwyn cadw’r cof amdanynt yn fyw a’u hatal rhag mynd yn ‘dduwiau na ŵyr neb amdanynt nawr’.

Mae Y Crysau Cochion - Chwaraewyr Pêl-droed Cymru 1946 – 2016 gan Gwynfor Jones yn  drysorfa o wybodaeth a storïau am bob un o’r chwaraewyr sydd wedi troedio’r cae yng nghrys Cymru o 1946 hyd at haf bythgofiadwy 2016.

Ceir hanes ac ystadegau y 331 o chwaraewyr, eu cefndir personol, eu clybiau a’u bywydau tu hwnt i bêl-droed, wedi eu cofnodi yn nhrefn yr wyddor.

O Mark Aizlewood a daflodd ei fedal Cwpan Cymru i’r dorf ar ôl colli yn y rownd derfynol yn 1994 i Eric Young a’i benrwymyn gwyn, dyma gyfrol o bortreadau diddorol a dadlennol am arwyr y bêl gron, sy’n cynnwys manylion chwaraewyr ymgyrchoedd Cwpan y Byd 1958 ac Ewro 2016.

Ceir hefyd restr gyflawn o’r 460 o gemau yn ystod y cyfnod a manylion yr holl reolwyr yng nghefn y gyfrol sydd yn ei gwneud yn gyfrol anhepgor i holl gefnogwyr pêl-droed Cymru.

“Aeth chwarter canrif heibio ers cyhoeddi Who’s Who of Welsh International Soccer Players roddodd sylw i’r cyfnod 1876-1991,” eglurodd Gwynfor Jones.

“Meddyliais ei bod yn hen bryd inni gael llyfr newydd a hynny yn y Gymraeg er mwyn cadw’r cof yn fyw am y chwaraewyr sydd wedi cyfoethogi ein gêm genedlaethol ac a gyfrannodd at osod y seiliau ar gyfer ein llwyddiant yn Ewro 2016.”

Ond mae Gwynfor yn pwysleisio mai nid llwyddiant Ewro 2016 eleni oedd y sbardun tu ôl i ysgrifennu’r llyfr.

“Dechreuais o ddifrif ar ysgrifennu Y Crysiau Cochion 1946-2016 ym mis Chwefror 2015, felly dim cysylltiad â’r lori lwyddiant gariodd gefnogwyr hen a newydd i Ffrainc eleni,” meddai.

“Cymerais 1946 fel man dechrau oherwydd mai dyna pryd yr ailddechreuwyd gemau ffurfiol wedi’r Ail Ryfel Byd, ac ymddangosai 2016 yn le da i orffen, sef pen-blwydd Cymdeithas Bêl-droed Cymru yn 140 oed.

“Ond roeddwn i wrth gwrs ar ben fy nigon o weld llwyddiant y tim eleni,” ychwanegodd Gwynfor.

“Brith gof sydd gen i o Gwpan y Byd 1958, ac wedi inni foddi wrth y lan sawl tro dyma ein cyfle ni i gael haf yn yr haul.”

Mae Gwynfor Jones yn hanu o Fro Dysynni ym Meirionnydd ac mae’n byw yn Aberystwyth.

Bu’n gweithio yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

Bu’n dilyn Y Crysau Cochion er 1955 ac mae wedi gweld dros 150 o gemau rhyngwladol.

Bydd noson i ddathlu chwarewyr pêl-droed Cymru a sgwrs gyda Gwynfor Jones a Lyn Ebenezer yn Siop y Pethe, Aberystwyth am 5.30 o'r gloch nos Fercher 14  Rhagfyr.

• Crysau Cochion - Chwaraewyr Pêl-droed Cymru 1946 – 2016 gan Gwynfor Jones  (£14.99, Y Lolfa).

Rhannu |