Llyfrau
Bombscare, bagets, madfallddyn ac ibuprofen – atgofion bythgofiadwy Prysor yn yr Ewros
Datgelir anturiaethau gwallgo a swreal yr awdur a’r ffan pêl-droed Dewi Prysor yn ystod pencampwriaeth Ewro 2016 mewn llyfr a gyhoeddir yr wythnos hon.
Wrth i Gymru, ei hiaith a’i chefnogwyr wneud argraff ar gyfandir cyfan, gadawodd Ffrainc ei hoel (yn llythrennol) ar Dewi Prysor.
Yn Ibuprofen S’il Vous Plait! ceir atgofion o’r rhan fwyaf o’r hyn mae’n gallu’i gofio – o ewfforia ac emosiwn y gemau eu hunain i’r profiadau bythgofiadwy – y digri a’r difrifol, y gwallgo, swynol a’r swreal.
"Fel ffan pêl-droed Cymru roedd cyrraedd ffeinals twrnameint rhyngwladol yn gwireddu breuddwyd.
"Roedd dilyn y tîm trwy gydol y twrnameint hwnnw yn ddim llai na byw y freuddwyd honno – yn enwedig wrth i Gymru wneud yn well nag unrhyw ddisgwyliadau a gobeithion wrth gyrraedd y rownd gyn-derfynol," meddai Dewi Prysor.
"Enillodd y tîm a’r cefnogwyr barch ac ewyllys da Ewrop gyfan yn ystod y mis hwn, ac mi ddyrchafwyd proffil Cymru fel cenedl o’r iawn ryw i uchelfannau na welwyd erioed o’r blaen," ychwanegodd.
Bu’r 33 diwrnod a’r 6,000 o filltiroedd yn gymaint mwy na stori bêl-droed.
Wrth i hanes, arwyr a chwedlau gael eu creu, llwyddodd Dewi Prysor i gael ei gloi mewn bar yn ystod bombscare yn Toulouse, ei fwyta’n fyw gan chwain ffyrnig yn Bordeaux, a’i hudo gan Ffrainc a’i phobol, ei bagéts, londréts a pharmacias – y llefydd cyfrin hynny lle mae gwellhad i hangofyrs yn cael ei greu.
"Mae’r gyfrol hon yn adrodd hanes fy nhaith ar hyd a lled Ffrainc wrth fyw y freuddwyd honno, trwy gyfrwng atgofion lliwgar (a niwlog weithiau!) a myfyrdodau dwys a digri a sgwennwyd mewn nodiadau dyddiadurol ar fy ffôn, ar gefnau pacedi rislas, ticedi trenau a beermats – gyda help sylweddol lluniau, negeseuon tecst, ypdêts Facebook a Twitter, a chyfathrebiadau efo teulu a ffrindiau nôl adra yng Nghymru," eglurodd Dewi.
"Dwi’n gobeithio ’mod i wedi gallu cyfuno cyffro, ewfforia ac emosiwn ymgyrch arwrol Cymru efo ychydig o gymeriad Ffrainc, a naws a natur sbesial iawn y teulu lliwgar a hynod hwnnw – cefnogwyr pêl-droed Cymru," ychwanegodd.
Daw Dewi Prysor o Gwm Prysor, Trawsfynydd yn wreiddiol ac mae bellach yn enw cyfarwydd trwy Gymru. Mae’n un o awduron mwyaf poblogaidd Cymru yn ogystal â bardd a chyflwynydd rhaglenni ar S4C.
Cyrhaeddodd tair o’i nofelau, Lladd Duw (2010), Cig a Gwaed (2012) a Rifiera Reu (2015) restr fer Gwobr Llyfr y Flwyddyn. Enillodd Lladd Duw Gwobr Barn y Bobl Golwg 360 yn 2011. Dyma ei gyfrol hunangofiannol gyntaf.
Mae Ibuprofen S’il Vous Plaît! gan Dewi Prysor (£9.99, Y Lolfa) ar gael nawr.