Llyfrau
Y Lolfa yn dechrau dathliadau hanner canmlwyddiant yn gynnar
Bydd gwasg Y Lolfa yn gweld dechrau dathliadau hanner canmlwyddiant ers sefydlu’r wasg yn gynharach na’r disgwyl wrth lansio dyddiaduron personol sylfaenydd Y Lolfa a chyd-sylfaenydd y cylchgrawn Lol Robat Gruffudd heno, nos Wener.
Cyfrol o ddyddiaduron personol ‘ecsentrig a rhy onest’ a gadwodd Robat Gruffudd, ers y chwedegau yw Lolian. Ysgrifennwyd y dyddiaduron dros yr hanner canrif diwethaf ac fe’i cyhoeddir am y tro cyntaf eleni.
Cyhoeddir y dyddiaduron cyn hanner canmlwyddiant sefydlu gwasg Y Lolfa flwyddyn nesaf ac mae’r llyfr yn sôn am rai o helyntion y byd cyhoeddi. Ond mae Robat am bwysleisio mai nad hunangofiant a geir yma na hanes y wasg fel y cyfryw.
"Byddwn yn dathlu pen-blwydd Y Lolfa yn y man. Gwyliwch y wasg am fanylion un parti anferth a rhes o ddigwyddiadau eraill!" meddai Robat.
Cynhelir noson lansio heno am 8 o’r gloch yn y Llew Du yn Nhalybont.
Yn ogystal ag adloniant cerddorol gan y cerddor Tecwyn Ifan bydd yr academydd Simon Brooks yn holi’r awdur.
Yn y dyddiaduron mae ymateb i ddigwyddiadau a darlun ‘answyddogol’ a gwreiddiol o’r profiad o fyw yng Nghymru dros yr hanner canrif diwethaf ynghyd â sylwadau cyffredinol, trwm â’r ysgafn.
Mae’r gyfrol yn cynnwys cymysgedd o straeon doniol, sylwadau pryfoclyd ac atgofion am helyntion y byd cyhoeddi a chyfarfodydd ag awduron ac eraill yng Nghymru ac mewn bariau ar y cyfandir.
Fel ymgyrchydd iaith o'r dyddiau cynnar, mae yna sôn am helyntion yn ymwneud â Chymdeithas yr Iaith, Cymuned, Dyfodol i'r Iaith -- ac ymgyrch i wrthod siarad Saesneg. Sonir am brotest Pont Trefechan a’r cais i sefydlu papur dyddiol Cymraeg, Y Byd.
Sonir hefyd am arestio ef a’i wraig Enid ar amheuaeth o fod yn rhan o ymgyrch llosgi tai haf yn ystod yr 80au.
Ceir cip hefyd ar ei gefndir Almaenaidd Iddewig a chyfeiriad at erlid y teulu yn yr Almaen ac ymweliad Robat â gwersyll Ravensbrück ble llofruddiwyd ei Fam-Gu gan y Natsiaid.
"Mae yma straeon doniol am nifer fawr o bobl, a dyna rwy'n ofni: be fyddan nhw'n dweud pan welan nhw eu henwau mewn print?
"Mae ffurf y dyddiadur yn gofyn am onestrwydd." meddai Robat. "Os nad y'ch chi'n onest, beth yw'r pwynt? Ond buasen i'n hoffi petai'n bosib i fi ddianc o'r wlad am fis neu ddau wedi cyhoeddi'r llyfr!"
Mae Lolian gan Robat Gruffudd (£9.99, Y Lolfa) ar gael nawr.