Llyfrau

RSS Icon
21 Tachwedd 2016

Dylanwad America Ladin ar nofel Gymraeg newydd Euron Griffith

Mae nofel Gymraeg newydd wedi cael ei chanmol am ei gwreiddioldeb a’i dylanwadau rhyngwladol gan ffigwr amlwg ym myd llenyddiaeth Cymreig.

Rhoddod yr awdur Jon Gower ganmoliaeth aruchel i nofel yr awdur Euron Griffith, Tri Deg Tri, gan grybwyll dylanwad America Ladin ar y stori.

"Mae hwn yn fyd lle mae realiti wastad yn gymysg â hudoliaeth a’r annisgwyl, a’r darllenydd yn clywed adlais pell o storïwyr America Ladin yn y dweud ac yn yr arddull," meddai Jon Gower yn ei adolygiad ar wefan O’r Pedwar Gwynt.

Rhoddodd ganmoliaeth i’r nofel gan nodi cryfder ‘ei saernïaeth, ei chynnwys, ei huchelgais a’i gweledigaeth.’

"Dyma awdur ar newydd wedd, a’r wedd honno’n hynod ddeniadol," ychwanegodd Jon Gower.

Bydd Euron Griffith yn trafod y dylanwadau eraill fu arno wrth ysgrifennu’r nofel mewn noson arbennig ym Mhalas Print yng Nghaernarfon nos Fercher 23ain o Dachwedd ble bydd yn cael ei holi gan Emlyn Gomer.

Dilyna Tri Deg Tri hanes Meirion Fôn, pedwar deg rhywbeth. Mae’n ddyn gwylaidd, go gyffredin sy’n gweithio’n galed i gadw’i fam gegog mewn cartref henoed moethus.

Ond bob hyn a hyn mae’n derbyn amlen sy’n mynd ag ef ar anturiaethau ar draws y byd, a hynny yn sgil ei waith fel hitman. Ac un diwrnod mae’n cael amlen newydd… rhif Tri Deg Tri… ac mae’n wynebu sialens fwyaf ei fywyd.

Ond ai Meirion sy’n gyfrifol am dynged pob un mae’n ei ladd? A beth yw’r gyfrinach dywyll o’r gorffennol sy’n effeithio ar ei ddyfodol?

Cafodd Euron Griffith ganmoliaeth uchel gan feirniaid a darllenwyr am ei ddwy nofel gyntaf, Dyn Pob Un a Leni Tiwdor. Yn gyflwynydd, cynhyrchydd ac ymchwilydd ar raglenni teledu a radio, daw Euron o Fangor yn wreiddiol, ac mae bellach yn byw yng Nghaerdydd.

Wrth drafod y cefndir tu ôl i’r nofel, meddai Euron: "Mi oedd fel petai yna law arall wrth y cyfrifiadur… llaw gyda bysedd chwareus oedd wastad yn fy arwain i lefydd tywyll ac anarferol,’ meddai, ‘i lefydd doeddwn i ddim wedi rhagweld.

"Fe ysgrifennodd yr arlunydd Paul Klee unwaith fod ei waith yn debyg i fynd â llinell 'am dro' a dyna yr union deimlad ges i wrth ysgrifennu’r nofel hon," eglurodd Euron.

Bydd noson yng nghwmni Euron Griffith gyda Emlyn Gomer yn cael ei gynnal nos Fercher 23ain o Dachwedd am 7 o’r gloch ym Mhalas Print.

Mae Tri Deg Tri gan Euron Griffith (£8.99, Y Lolfa) ar gael nawr. 

Rhannu |