Llyfrau

RSS Icon
16 Tachwedd 2016

Hen chwedl o Ben Llŷn yn sbarduno nofel rymus

Stori wir a oroesoedd ar lafar gwlad yw testun nofel newydd sbon a gyhoeddir gan Y Lolfa yr wythnos hon.

Yn Pantywennol gan Ruth Richards, olrheinir hanes Elin Ifans - merch fywiog yn ei harddegau sydd yn gaeth i rigolau bywyd cefn gwlad Pen Llŷn y bedwaredd ganrif ar bymtheg.

Oherwydd ei hobsesiwn â’r goruwchnaturiol caiff Elin yr enw Bwgan Pantywennol gan y bobl leol, gan godi tensiynau a gwrthdaro yn y gymuned rhwng crefydd ac ofergoeliaeth.

Mae’r nofel yn seiliedig ar stori wir a gadwyd yn fyw ar lafar gwlad.

"Mae'n debyg mai'r hyn a’m hysbrydolais oedd cyfuniad o astudio llenyddiaeth y bedwaredd ganrif ar bymtheg ar gyfer fy M.A ac atgofion o hen straeon Pen Llŷn a glywais yn nhai fy nwy Nain," meddai Ruth Richards.

"Cefais afael ar lyfr Moses Glyn Jones a Norman Roberts am hanes y bwgan wedyn a synnu braidd nad oedd neb wedi ei throi'n nofel.

"Yr hyn oedd mor gyffrous oedd bod digon o'r hanes wedi goroesi i ffurfio sylfaen i mi gael llunio naratif fy hun o'i chwmpas."

Cnewyllyn y stori yw rhwystredigaeth merch yn ei harddegau wedi iddi sylweddoli na fydd rhigolau ei bywyd Fictoraidd yn cynnig llawer o gyfle nac antur iddi.

"Roedd y ffaith y bod Elin mor ifanc pan ddigwyddodd yr helynt yn apelio'n fawr ataf," eglurodd Ruth.

"Mynnais adnabod ryw ysbryd 'Pync' yn perthyn iddi.

"Y math o egni a herfeiddiwch amrwd sy'n gwneud y broses o'i chywilyddu mor anghyfiawn, a'i ffawd yn dristach byth."

Fe gafodd y nofel ganmoliaeth uchel yng nghystadleuaeth y Fedal Ryddiaith yn Eisteddfod Genedlaethol y Fenni 2016 gan ddod yn agos at gipio’r brif wobr.

Meddai un o feirniaid y gystadleuaeth, Dafydd Morgan Lewis: "O’r dechrau’n deg fe wirionais ar y nofel hon.

"Cwympais mewn cariad â hi mewn gwirioned.

"Nid stori afaelgar yn unig sydd yma ond ysgrifennu gwirioneddol rymus hefyd."

Ychwanegodd Jane Aaron fod y nofel yn adleisio testunau llên Gothig Americanaidd, megis dramau enwog Arthur Miller, The Crucible.

Pantywennol yw nofel gyntaf Ruth Richards.

Cafodd Ruth ei magu yng Nghemaes, Ynys Môn, ond mae bellach yn byw ym Miwmares.

Bu’n fyfyrwraig ar y cwrs MA Ysgrifennu Creadigol ym Mhrifysgol Bangor ac mae’n gweithio i’r mudiad lobïo, Dyfodol i’r Iaith.

Bydd y nofel yn cael ei lansio yn Oriel Plas Glyn y Weddw ym Mhwllheli am 2 o’r gloch dydd Sadwrn, 26 Tachwedd.

Bydd darlleniadau o’r nofel a perfformiadau o ‘Baled y Bwgan’ sef hen faled gyfoes am yr helynt.

Bydd yr Athro Angharad Price a’r Athro Gerwyn Wiliams yn holi Ruth Richards.

Mae Pantywennol gan Ruth Richards (£7.99, Y Lolfa) ar gael nawr.

Rhannu |