Llyfrau

RSS Icon
14 Tachwedd 2016

Ein perthynas â'n hiaith yn ysbrydoli cyfrol o straeon byrion gan Lleucu Roberts

Cymreictod â’r iaith Gymraeg sydd wedi ysbrydoli un o awduron amlycaf Cymru yn ei chyfrol newydd.

Yr eliffant hardd, y rhodd fregus, y llifeiriant yn y pen a’r bachyn yn y galon: mae hi yma yn ei hamryfal liwiau – y Gymraeg.

Hi yw’r llinyn sy’n cydio’r wyth stori fer yng nghyfrol newydd Lleucu Roberts, Jwg ar Seld, a gyhoeddir yr wythnos hon.

Yn y straeon byrion fe ddarlunir cymeriadau amryliw o bob rhan o’r Gymru gyfoes gan rychwantu sawl haen o gymdeithas.

Portreadir eu cariad, eu difaterwch a’r gwrthdaro – rhwng cenedlaethau, dosbarth, diwylliant, gogledd a de, iaith a hunanlywodraeth gan gynnig cipolwg ar y patrymau sy'n codi o'r mathau o ddefnydd a wna bobl o’r Gymraeg.

"Mae yma gymeriadau sy’n siarad Cymraeg bron heb sylwi eu bod yn gwneud hynny, ac eraill sy’n ymwybodol iawn ohoni," meddai Lleucu.

"Y nod oedd edrych o bell ar gymlethdodau ein harwahanrwydd ieithyddol, a phatrymau ein hymwybyddiaeth o'n hiaith.

"Ond er mai’r iaith yw’r llinyn sy’n gyffredin rhwng y straeon, mae’r gyfrol yn gyfuniad o’r difrif a’r digri a dwi’n gobeithio bydd amrywiaeth y straeon yn apelio at bob math o ddarllenwr."

Enillodd Lleucu Roberts Fedal Ryddiaith Eisteddfod Genedlaethol Sir Gâr 2014 am y gyfrol o straeon byrion Saith Oes Efa, gan ddenu canmoliaeth eang gan feirniaid a darllenwyr fel ei gilydd.

"Ar ôl sgwennu Saith Oes Efa roedd arna i flys rhoi cynnig cynnig ar wneud rhywbeth tebyg eto – a dyma ddigwydd glanio ar y Gymraeg fel ‘bachyn' sy’n clymu’r straeon,"  eglurodd Lleucu.

"Mae mwy nag un wedi dweud mai peth annoeth yw gwneud yr iaith yn destun llenyddiaeth yn hytrach na’i chadw fel cyfrwng yn unig. Rwy’n mentro mynd yn groes i hynny yn y gyfrol hon."

Cafodd Lleucu Roberts ei magu yn ardal Bow Street, Ceredigion ond mae’n byw yn Rhostryfan ger Caernarfon ers bron i chwarter canrif.

Ysgrifennodd sawl nofel i oedolion gan gynnwys Rhyw Fath o Ynfytyn a Teulu yn 2012. Enillodd wobr Tir na n-Og i ieuenctid ddwywaith.

Bydd noson i ddathlu cyhoeddi Jwg ar Seld yn cael ei gynnal ym Mhalas Print yng Nghaernarfon nos Iau y 1af o Ragfyr.

Mae Jwg ar Seld gan Lleucu Roberts (£7.99, Y Lolfa) ar gael nawr. 

Rhannu |