Llyfrau

RSS Icon
08 Gorffennaf 2011

Busnes a phêl-droed

FEL dyn busnes a rheolwr pêl-droed, fuodd Meirion Appleton erioed ofn mentro. Ac mae’n dangos yr un dewrder wrth ysgrifennu yn onest a chignoeth am fyd pêl-droed, byd busnes a’i fywyd personol yn ei hunangofiant newydd.

Fe fydd ambell stori yn synnu – gan gynnwys honno amdano’n trosglwyddo amlenni i rai o enwau mawr y byd chwaraeon dros y blynyddoedd, sêr rygbi fel Gareth Edwards a Barry John.

“Er mai fi sy’n dweud, roedd gen i gryn ddylanwad bryd hynny,” meddai Meirion Appleton sy’n byw yn Aberystwyth. “Ro’n i’n un o gwsmeriaid gorau cwmni Adidas ac fe fedra i gofio derbyn galwad ffôn oddi wrth un o’r prif ddynion ar fore dydd Gwener yn gofyn a wnawn i ffafr ag e.

“Roedd e am i mi drosglwyddo amlen yr un i ddau o chwaraewyr Cymru cyn gêm ryngwladol. Fe fydden nhw’n cyfarfod â fi ar y grisiau y tu allan i’r gwesty. Fe wnes i gytuno ac fe gyflwynais amlen yr un i Gareth Edwards a Barry John. Beth oedd yn yr amlenni? Fel finne, fe fedrwch ddychmygu. Dwi ddim yn beio’r naill na’r llall. Roedden nhw’n haeddu pob cildwrn posibl. Roedd Adidas wedyn yn gofalu y byddwn inne’n cael ffafr fach am fy nghymwynas ac am gadw’n dawel.”

Mae yna lawer mwy na hyn yn cael ei ddatgelu a hynny am y tro cynta’ …

“Mae yna rai nad ydynt yn gwybod o hyd ac eraill yn gwybod ond heb sylweddoli ’mod i’n gwybod hefyd,” meddai wrth ysgrifennu am ei fywyd personol.

Roedd parodrwydd i fentro yn amlwg hyd yn oed pan oedd yn blentyn yn tyfu fyny yng Nghapel Seion ger Aberystwyth. Pwy arall fyddai’n parhau i chwarae pêl-droed ar ôl bod â’i goes mewn plastr am ddeunaw mis – a hynny yn dawel bach heb fod Mam yn dod i wybod?

Efallai mai dyma’r dewrder a’i rhoddodd ar y blaen ym myd busnes ac fel y rheolwr a brofodd y fath lwyddiant yn y gynghrair ac wrth ennill cwpanau gyda chlybiau pêl-droed Aberystwyth, Bangor a’r Bont.

Gan ddechrau gyda’r sioc o ganfod nad y dyn roedd e’n ei alw’n ‘Dad’ oedd ei dad biolegol, cawn glywed am y triciau gwerthu a sicrhaodd ei le fel dyn busnes llwyddiannus ym myd chwaraeon dros sawl degawd a siom ei dor-priodas a gorfod datgan ei hun yn fethdalwr.

“Anghofia i fyth mo’r foment honno yn Abertawe pan y bu’n rhaid i mi osod fy llaw ar y Beibl a thyngu fy mod yn fethdalwr,” meddai. “Dyna pryd dorrodd yr argae dagrau. Fy unig gysur oedd i mi lwyddo i gadw enwau Gret, Ffion a Gari o’r cyfan. Fi, a fi yn unig oedd yn fethdalwr.”

Cawn rannu ei ddiddordeb brwd mewn pêl-droed a’i gariad dros glybiau Aberystwyth a’r Bont wrth iddo adrodd am ei yrfa amrywiol fel hyfforddwr pêl-droed – o’r cyfnod ar ddechrau’r nawdegau pan Aber oedd y lle i ddod i ymarfer i glybiau fel Chelsea, Middlesbrough a Wrecsam, i’r gorfoleddu a’r cicio ar y cae ac yn y stafell newid a phroblemau ariannol y clwb.

Llyfr dadlennol i rai â diddordeb mewn busnes, pêl-droed a phobl.

Bydd Appy (Y Lolfa) yn cael ei lansio nos Fercher am 7.30yh yn y Marine, Aberystwyth.

Llun: Meirion Appleton gyda Osian Roberts a Marcel Desailly

Rhannu |