Llyfrau

RSS Icon
31 Hydref 2016

Gomer yn cyhoeddi Bolycs Cymraeg!

Llawn lluniau, llawn hiwmor a llawn cyfeiriadau at sefydliadau Cymru, mae Bolycs Cymraeg wedi cael ei gyhoeddi gan Wasg Gomer.

S’neb yn saff wrth i awdur Bolycs Cymraeg dynnu blewyn o sawl trwyn.

Mae Bolycs Cymraeg yn gyfrol sy’n darlunio llwyddiant y ffenomen boblogaidd sy’n neud i’r genedl chwerthin bob dydd gyda’r pyst doniol a deifiol ar y cyfryngau cymdeithasol.

Mae Bolycs Cymraeg yn awdur toreithiog ar lwyfannau’r cyfryngau cymdeithasol.

Yn anhysbys i bawb ond ef neu hi ei hun mae’n postio a thrydar yn ddyddiol gan daflu sen, gwawdio a chorddi am y diweddara sy’n digwydd – ond nid mewn ffordd atgas, ciaidd ond gyda thinc yn y llais a fflach yn y llygad a pinshad fawr o ddrygioni.

Mae Bolycs Cymraeg yn mwynhau dilyniant torf o bobl sy’n taro mewn bob dydd i weld sut mae’n ail ddweud hanes Cymru llun wrth lun, a gair wrth air.

  • Mae gan Bolycs Cymraeg 17,349 o ddilynwyr ar Facebook, 4,844 ar Instagram, a 7,872 ar Twitter.
  • Mae Bolycs Cymraeg  bellach ar werth yn eich siop lyfrau leol neu’n uniongyrchol oddi wrth y cyhoeddwr, Gwasg Gomer www.gomer.co.uk. Pris £4.99
  • Does dim sicrwydd pwy yn union yw Bolycs Cymraeg.
  • Cred rhai y crëwyd Bolycs Cymraeg fel enaid arallfydol o niwloedd a llynnoedd Eryri
  • Cred eraill mai gyrru lori yn ardal Croesoswallt yw hanes yr awdur.  
  • Enillodd yr awdur ddim o wobr Goffa Daniel Owen yn 1980 ac 1985.
  • Os hoffech wybod rhifau llwyddianus y loteri ar gyfer nos Sadwrn nesa – cysylltwch â Bolycs Cymraeg.
Rhannu |