Llyfrau

RSS Icon
08 Gorffennaf 2011
Karen Owen

Cip ar fywyd Normal

HENO, fe fydd cyfrol yn adrodd hanes un o golegau enwocaf Cymru yn cael ei bwrw i’r byd ym Mangor. Ffrwyth llafur ac ymchwil y Dr Tudor Ellis o’r Groeslon ger Caernarfon ydi Bywyd Normal, sydd wedi croniclo straeon a lluniau o’r sefydliad ar ôl treulio blynyddoedd yn holi cyn-fyfyrwyr.

“Mi fuodd y Coleg Normal yn drwm ei ddylanwad ar addysg yng Nghymru am 138 o flynyddoedd, o’i sefydlu yn 1858 hyd nes iddo integreiddio gyda Choleg Prifysgol Gogledd Cymru yn 1996,” meddai Tudor Ellis, a fu’n darlithio yno am chwarter canrif.

“Mi fuodd o hefyd yn ddylanwad arbennig ar ddatblygiad addysg drwy gyfrwng y Gymraeg.

“Clytwaith cymhleth ydi profiadau coleg, ac mae unrhyw ymdrech i gwmpasu’r cyfanwaith yn sicr o syrthio’n fyr,” meddai Tudor Ellis wedyn. “Er hynny, gobeithio fy mod i wedi creu darlun sy’n deyrnged i goleg a fu mor annwyl yng nghof cynifer o’i fyfyrwyr.”


Beth sydd mewn enw?

“Mae’r enw wedi bod yn destun llawer o dynnu coes dros y blynyddoedd,” meddai Tudor Ellis. “Roedd yn arferiad gan Dr Jim Davies, un o gyn-brifathrawon y coleg, awgrymu’n gellweirus mai bwriad yr enw oedd gwahaniaethu rhwng y Coleg Normal a Choleg y Brifysgol – sef y coleg ‘abnormal’!

“Er mwyn deall tarddiad yr enw rhaid cyfeirio’n ôl at hanes creu sefydliadau ar gyfer hyfforddi athrawon, a throi at gyfandir Ewrop,” meddai Tudor Ellis wedyn.

“Sefydlwyd cyfres o ‘ysgolion normal’ ym mlynyddoedd cyntaf y 18fed ganrif mewn rhannau o’r Almaen. Honnir mai’r gyntaf oedd ysgol normal yn Halle yn 1706 ar gyfer dynion ifanc a oedd eisoes wedi cael addysg elfennol ac a oedd yn paratoi ar gyfer bod yn athrawon… Yn yr Almaen, un o ystyron y gair ‘normal’ ydi ‘safonol’.

“Ystyr ysgolion normal, felly, ydi ysgolion sy’n gosod y safon ar gyfer addysg ac ar gyfer yr hyn y dylai darpar-athrawon ymgyrraedd ato.

“Yng Nghymru a Lloegr, sefydlodd y llywodraeth bwyllgor newydd yn 1839 dan y Cyfrin Gyngor i ganolbwyntio ar addysg... gan nodi mai un o brif dasgau’r pwyllgor fyddai sefydlu coleg cenedlaethol ar gyfer hyfforddi athrawon,” meddai Tudor Ellis,

“Sefydlwyd yn y man gryn nifer o golegau ‘normal’ ym Mhrydain, ac ymledodd y defnydd o’r term ‘coleg normal’ neu ‘ysgol normal’ i wledydd ar draws y byd.”

Bywyd Normal, Dr Tudor Ellis, Argraffwyd gan Wasg y Bwthyn, Caernarfon, £12.99

Rhannu |