Llyfrau

RSS Icon
26 Hydref 2016

Sêr pêl-droed Cymru yn canmol llyfr newydd sy'n cofnodi eu llwyddiant

Mae chwarewyr o dîm pêl-droed Cymru wedi canu clod llyfr newyd sydd yn adrodd hanes y llwyddiant anhygoel brofodd y tîm yn ystod yr haf eleni.

Mae When Dragons Dare to Dream, a gyhoeddir yr wythnos hon, yn ddilyniant i gyfrol lwyddianus Jamie Thomas’ The Dragon Roars Again ac yn olrhain cynnydd anhygoel tîm pêl-droed Cymru drwy rowndiau terfynol Ewro 2016.

"Roedd cyraedd Ewro 2016 yn golygu popeth i ni, fel tîm, fel cenedl o bobl sydd wedi aros i weld Cymru yn cystadlu mewn pencampwriaeth fel hon," meddai Joe Ledley.

"Roedd cyraedd y pencampwriaeth ei hun yn deimlad anhygoel, ac roeddem ni ar dân i gyraedd Ffrainc a rhoi ein gwlad ar y map a gwneud y genedl yn falch ohonom unwaith yn rhagor.

"Fel chwarewyr fe gawsom ni amser arbennig – roedd pob dydd yn bleser i ni, ac rwy’n hoffi meddwl fod y cefnogwyr wedi mwynhau lawn cymaint a ni; doeddem ni jesd ddim eisiau i’r cyfan ddod i ben!" meddai Joe.

"Nid yw ceisio adrodd stori anhygoel ein cenedl yn ystod yr haf yn dasg hawdd ond mae Jamie wedi gwneud gwaith gwych ohoni gyda’r llyfr newydd.

"Mae’n lyfr y bydd rhaid i unrhyw gefnogwr pêl-droed ei ddarllen!" ychwanegodd.

Ewro 2016 oedd y pencampwriaeth mawr cyntaf i’r tîm cenedlaethol er 1958.

Gwireddodd lwyddiant y tîm freuddwyd sawl un o’i cefnogwyr gan arwain at y tîm yn cyraedd rownd cynderfynol Ewro 2016.

Mae’r gyfrol yn cynnwys dadansoddiadau manwl a mewnwelediad i’r daith a gymerwyd yn ystod yr haf ac yn cynnwys cyfweliadau ecsgliwsif gyda Mark Evans o Gymdeithas Pêl-droed Cymru (FAW) sy’n cynnig cipolwg ar rai o’r paratoadau yn ystod y pencampwriaeth.

Mae rhai o’r chwarewyr a’r staff hefyd yn cynnig sylwadau gan gynnwys Joe Ledley a Chris Gunter.

"Rwy’n falch iawn o ddweud fod yma lyfr da iawn arall sydd yn adrodd stori anhygoel Cymru o safbwynt gymaint o bobl oedd yn rhan o’r cyfan – o’r chwarewyr i’r hyfforddwyr, y cefnogwyr, y newyddiadurwr – pawb!" meddai Chris Gunter.

Magwyd Jamie Thomas ar Ynys Môn. Bellach yn 23 mlwydd oed mae ganddo radd Meistr yn y Cyfryngau ac mae’n gefnogwr gydol oes sydd yn ysgrifennu ar llawer o agweddau ar bêl-droed Cymru i amryw o gyfryngau gwahanol.

"Roeddwn ar ben fy nigon o weld y canmoliaeth gafodd fy llyfr cyntaf i – o glod gan y bobl sydd yn ymwneud â charfan Cymru o ddydd i ddydd, i fy nghyd-gefnogwyr neu newyddiadurwr eraill," meddai Jamie.

Mae When Dragons Dare to Dream gan Jamie Thomas (£9.99, Y Lolfa) yn cael ei gyhoeddi ar Dachwedd 1af. 

Rhannu |