Llyfrau

RSS Icon
25 Hydref 2016

Cyhoeddi'r llyfr lliwio Cymraeg cyntaf i oedolion

Cyhoeddir y llyfr lliwio cyntaf Cymreig i oedolion yr wythnos hon gan wasg Y Lolfa.

Lliwio Cymru / Colouring Wales yw’r llyfr lliwio cyntaf i oedolion gyda thema gwbl Gymreig i’r lluniau.

Ceir ynddo 21 o luniau hyfryd a Chymreig i’w lliwio gan yr artist o Lanrug, Dawn Williams gan gynnwys lluniau o Branwen, Dewi Sant, Blodeuwedd, y Ddraig Goch, Cariad, Calon Lân a’r anthem genedlaethol, Hen Wlad fy Nhadau.

Gwelwyd twf yng ngwerthiant llyfrau lliwio i oedolion wedi i seicolegwyr honni bod canolbwyntio ar liwio yn cael gwared ar feddyliau negyddol, yn gwella effeithiau straen ac yn ymlaciol.

Yn ôl y Sefydliad Iechyd Meddwl mae 59% o oedolion ym Mhrydain yn dweud eu bod dan fwy o straen heddiw nag oedden nhw bum mlynedd yn ôl.

Er mai gweithred i blant oedd lliwio rhwng y llinellau ar un adeg, mae lliwio bellach yn cael ei ddefnyddio fel math o therapi amgen i helpu oedolion leddfu straen a gorbryder.

"Dyma gyfrol unigryw ac arloesol yn y byd cyhoeddi yng Nghymru," meddai Fflur Arwel, pennaeth marchnata gwasg Y Lolfa.

"Cyhoeddwyd  degau o lyfrau lliwio i oedolion yn y blynyddoedd diwethaf ond dyma’r unig un â gogwydd Gymreig iddo.

"Mae ymchwil wedi dangos fod lliwio yn gallu lleddfu cyflyrrau fel straen ac mae’r profiad yn gallu cludo rhywun yn ôl i ddyddiau haws eu plentyndod."

Cafodd yr artist proffesiynol Dawn Williams ei geni ym Mangor a’i magu ar Ynys Môn. Mae hi bellach yn byw yn Llanrug ac yn briod gyda tri o feibion.

"Bûm yn gaeth i gelf ers y foment defnyddiais fy mhensiliau am y tro cyntaf!" eglurodd Dawn.

"Roeddwn i’n ifanc iawn – yn blentyn mewn cartref plant yn Llandudno ac roeddwn wrth fy modd yn eistedd ar y bwrdd yn yr ystafell chwarae a dangos i’r plant eraill sut i wneud lluniau.

"Roedd yn ffordd o ddianc i fyd gwahanol yr eiliad byddai’r pensil yn cyffwrdd â’r papur," meddai Dawn, "ac rwy’n cael fy ysgogi gan yr angen i ddianc i deyrnas lliwgar fy hun ac yn cael fy ysbrydoli gan fyd natur a gan bobl – popeth sydd o fy nghwmpas!

"Neidiais ar y cynnig i greu llyfr lliwio Cymraeg – mae celf yn bwysig i mi ac rwy’n ddiolchgar iawn am y cyfle. Mae’n therapiwtig ac yn rhywle i mi ddianc iddo fo os ydw i’n teimlo’n isel."

Mae Lliwio Cymru / Colouring Wales gan Dawn Williams (£4.99, Y Lolfa) ar gael nawr. 

Rhannu |