Llyfrau

RSS Icon
14 Hydref 2016

Cyfrol newydd yn hyrwyddo mynydda trwy gyfrwng y Gymraeg

MAE cyfrol newydd yn rhoi arweiniad i gerddwyr ar hyd llwybrau godidocaf mynyddoedd Cymru.

Mae Cymru’n llawn o fynyddoedd, ac yn denu niferoedd dirifedi o gerddwyr trwy gydol y flwyddyn.

Mae aelodau brwd Clwb Mynydda Cymru yn adnabod mynyddoedd ein gwlad fel cefn eu llaw, a’u nod ydi cael mwy o Gymry Cymraeg i gerdded.

Pwy’n well nac aelodau clwb mynydda blaenllaw Cymru felly i’n rhoi ni ar ben ffordd a’n tywys ar 48 o deithiau i gopaon Cymru?

“Mae gan Gymru gymaint i’w gynnig o ran amrywiaeth rhyfeddol ein mynyddoedd,” meddai Eryl Owain, golygydd y gyfrol ac un o hoelion wyth y clwb.

“Prin fod unrhyw wlad arall o’r un maint yn gallu rhagori ar y dewis sydd gennym – o gribiau creigiog a chymoedd dyfnion Eryri a Meirionnydd i unigrwydd a thawelwch y canolbarth, ac i esgeiriau trawiadol y Bannau.

“Gobeithio bod Copaon Cymru yn adlewyrchu’r amrywiaeth hwn ac yn cynnig her ac antur i fynyddwyr ym mhob cwr o’r wlad.”

Ceir panel gwybodaeth ar ddechrau pob pennod sy’n cynnig arweiniad cyffredinol trwy nodi’r pellter, faint o ddringo sydd, a bras amcan o’r amser ar gyfer pob taith.

Mae’r 48 o deithiau i dros 100 o gopaon ein gwlad wedi eu dewis yn graff gan aelodau Clwb Mynydda Cymru.

Darperir teithiau herfeiddiol i gerddwyr profiadol, a theithiau ysgafnach i gerddwyr newydd.

Ar gyfer pob taith, ceir disgrifiadau clir a bras-fapiau lliw fydd o gymorth wrth gyrraedd y copaon hyn. Ond nid cyrraedd copa’n unig sy’n eich gwneud yn fynyddwr.

Ers sefydlu Clwb Mynydda Cymru yn 1979, gyda’r nod o hyrwyddo mynydda drwy gyfrwng y Gymraeg, mae ethos y clwb yn ddwfn mewn ymddiddori ym mhopeth perthnasol â’r mynydd wrth gerdded. Daw’r ethos yma’n amlwg yn y gyfrol.

Ar gyfer pob taith, ceir gwybodaeth ddifyr am dirwedd, o effeithiau rhewlifiant i olion diwydiannol, am chwedlau neu fyd natur, ac am  gysylltiadau hanesyddol a diwylliannol y mynyddoedd.

Mae pob cerddwr yn llawer fwy o ‘fynyddwr’ gyda’r cyfoeth cefndirol yma dan ei feddiant.

Mewn cyfrol clawr caled, o 208 o dudalennau, ceir casgliad gwych o luniau lliw safonol.

Tynnir ein sylw at dirffurfiau mwyaf nodedig Cymru gan gynnwys dau faen Adda ac Efa ar gopa Tryfan, i dirffurfiau mwynach Cwm Maesglasau.

Ymysg cyfranwyr lluniau’r gyfrol mae’r cyflwynydd a’r naturiaethwr Gerallt Pennant, a’r dyn camera gwobrwyedig Alun Hughes.

Meddai Aneurin Phillips, y golygydd lluniau: “Rydym yn ddyledus iawn i’n haelodau ac i rai o brif ffotograffwyr Cymru am fod mor barod i gyfrannu lluniau arbennig iawn. Maent yn llwyddo i gyfleu cymeriad ein mynyddoedd trwy’r gwahanol dymhorau mewn modd effeithiol dros ben ac mae’n werth £15 dim ond i weld y lluniau rhagorol hyn.”

Yn ôl cadeirydd y clwb, Richard Roberts: “Mae’r gyfrol yn gwireddu breuddwyd gan aelodau’r clwb.

“Bydd yn gyfraniad gwerthfawr dros ben i hybu ymwybyddiaeth o’n mynyddoedd ac i annog mwy i fwynhau’r unigeddau digymar hyn a thrwy hynny gefnogi nod sylfaenol Clwb Mynydda Cymru o hyrwyddo mynydda trwy gyfrwng y Gymraeg.”

Mae Copaon Cymru bellach ar gael yn eich siop lyfrau lleol am £15 neu’n uniongyrchol oddi wrth y cyhoeddwr, Gwasg Carreg Gwalch.

Rhannu |