Llyfrau

RSS Icon
13 Hydref 2016

Myrddin ap Dafydd yn cyhoeddi nofel sy’n cyflwyno hanes i blant

Yr Argae Haearn yw nofel gyntaf y Prifardd Myrddin ap Dafydd i blant.

Ers boddi Tryweryn yn 1965, mae pob plentyn wedi ei drwytho yn yr hanes, ac am hanes sy'n ein cysylltu â cholled.

Hanes llawer fwy cadarnhaol sy'n perthyn i Langynderyn, wrth i'r ffermwyr taer yng Nghwm Gwendraeth Fach fod lwyddo iddal eu tir rhag dwylo Cyngor Sir Abertawe, a hynny pan oedd argae Tryweryn dal yn anorffenedig.

Er mwyn dathlu cyhoeddi’r nofel sy’n seiliedig ar frwydr Llangydeyrn, cafwyd gweithdy arbennig yng nghwmni’r awdur yn Ysgol y Fro, Llangyndeyrn ei hun.

Darllenwyd darnau o’r nofel, a cafwyd sylw arbennig i’r digwyddiad ar raglen Heno, S4C.

“Roedd ymgyrch y ffermwyr yn un dewr, a dwi’n teimlo mor lwcus i fod yn dod o fan hyn,” meddai Jac.

“Mae’n bwysig bod llyfr ar gael i ddysgu plant a phobl am yr hanes,” meddai Taran, un arall o ddisgyblion Ysgol y Fro.

Yr un oedd barn pennaeth yr ysgol, Diane Thomas: “Mae’n bwysig pan ry’ch chi’n dysgu i gyflwyno hanes mewn ffordd sydd o fewn cyrraedd y plant, ac mae cael yr hanes mewn stori ddifyr, sy wedi ei sgwennu’n arbennig i blant, yn ddefnyddiol iawn.”

Braint i’r wasg oedd cael cwmni un o’r ymgyrchwyr gwreiddiol, Huw Williams, sy’n dad-cu i un o blant Ysgol y Fro.

Meddai: “Yr adeg ni ro’n i’n gweithio gyda fy nhad a fy mam ym Mhanteg.

"Pan glywon ni eu bod nhw am foddi’r ffarm, ro’n i’n sylweddoli mod i’n mynd i golli ’nghartre, fy mywoliaeth a ’nyfodol.

"A chwarae teg daeth y gymuned at ei gilydd yn benderfynol bod dim rhoi mewn i fod. Dyna’r ffordd enillon ni’r frwydr i ddweud y gwir, mewn undod y mae nerth.”

“Mae ymdrechion pobol y cwm yn ardal Llangyndeyrn yn nechrau’r chwedegau yn arwrol,” meddai Myrddin ap Dafydd.

“Maen nhw’n haeddu cael eu dathlu mewn llyfrau hanes, cerddi, baledi a chaneuon.

"Ac roeddwn i’n meddwl y byddai nofel yn ffordd arall o ddod â’r stori ddramatig i sylw holl blant Cymru.”

Rhannu |