Llyfrau

RSS Icon
12 Hydref 2016

Carl Clowes yn mynd ar daith drwy Gymru

Bydd yr is-gennad, yr entrepreneur cymdeithasol a’r awdur Carl Clowes yn mynd ar daith drwy Gymru dros y mis nesaf yn sgwrsio am rai o’r straeon fwyaf dadleuol a geir yn ei hunangofiant newydd Super Furries, Prins Seeiso, Miss Siberia - a Fi.

Mae’r hunangofiant eisoes wedi hawlio sylw yn y wasg ar ôl i stori ymddangos oedd yn honni bod Plaid Cymru Cymru wedi derbyn £25,000 gan wladwriaeth Libya yn ôl yn yr 1970au.

Bydd y daith fel a ganlyn:

  • 12 Hydref - Llen Llŷn, Pwllheli am 12yp
  • 13 Hydref - Nant Gwrtheyrn am 3yp
  • 15 Hydref - Cwpwrdd Cornel, Llangefni am 11yb
  • 17 Hydref - Saith Seren Wrecsam am 7.30yh
  • 18 Hydref - Siop y Pentan Caerfyrddin am 3yp
  • 19  Hydref - Siop Bodlon, Yr Hen Lyfrgell Caerdydd am 11yb; Waterstones Caerdydd am 1yp
  • 24 o Hydref - Pethe Powys Y Trallwng am 12yp

Bydd y daith yn terfynnu ym Mhalas Print ar nos Iau y 10fed o Dachwedd am 7 o’r gloch ble bydd noson yng nghwmni Carl Clowes a’i gyfaill Sel Williams.

Symudodd Carl Clowes o’i swydd arbenigol ym Manceinion i bractis un dyn yn Llŷn yn 1970 er mwyn i’r teulu gael eu magu mewn cymuned wledig a Chymraeg. Yno y gwelodd gymuned a’i phoblogaeth yn dirywio ac iechyd y fro yn dioddef.

"Gweledigaeth o’r newydd a deffroad bersonol ac oesol yn y perthynas rhwng amgylchiadau byw ac iechyd pobl wnaeth fy arwain i at newid gyrfa ac arbenigo mewn meddygaeth gymdeithasol," eglurodd Carl.

Roedd bygythaid y byddai ysgol pentref Llanaelhaearn yn cau ac roedd angen mawr am gyfleoedd gwaith os oedd yr ardal am oroesi.

Dyna ddechrau sawl menter y maent yn cynnwys sefydlu canolfan iaith Nant Gwrtheyrn yn 1982, a bellach gwelwyd rhyw 30,000 o bobl yn ymdrochi yn yr awyrgylch unigryw.

Bu Carl Clowes ynghlwm â sawl brwydr ieithyddol gan gynnwys dod â chyrff at ei gilydd i ymgyrchu i sicrhau undod o blaid Deddf Iaith Newydd.

Bu hefyd yn ymgeisydd dros Blaid Cymru yn etholaeth Maldwyn yn 1979, 1983 ac 1987.

"Wedi imi ddeffro i`r ffaith mai gwleidyddion sydd yn y sefyllfa gorau i ddylanwadu ar iechyd cymdeithas, fentrais i`r byd gwleidyddol yn San Steffan tair gwaith ym Maldwyn," meddai Carl, "Cefais gyfleon diddorol a difyr tu hwnt ond heb lwyddiant etholiadol."

Bu hefyd yn ymgyrchydd brwd yn erbyn Wylfa B gan lunio ‘Maniffesto Môn – yn sicrhau gwaith cynaliadwy ar Ynys Môn’.

Arweiniodd yr efeillio rhwng Cymru a Lesotho yn 1985 gan sefydlu a chadeirio Dolen Cymru– y ddolen gyntaf o’i fath yn y byd. Bellach, mae’n Is-gennad Anrhydeddus Lesotho yng Nghymru.

Bu Carl hefyd yn gweithio tu allan i Gymru ar gyfer y trydydd sector mewn gwledydd megis Siberia, Cambodia, a Mizoram yn India.

Mae wedi ei anrhydeddu gyda’r Wisg Wen gan yr Eisteddfod Genedlaethol am ei gyfraniad yn lleol, cenedlaethol a rhyngwladol. Mae’n briod a Dorothi ac mae ganddyn nhw bedwar o blant – Dafydd, Rhiannon, Angharad a Cian. Mae Dafydd a Cian yn aelodau o grŵp y Super Furry Animals.

Mae Super Furries, Prins Seeiso, Miss Siberia a Fi gan Carl Clowes (£12.99, Y Lolfa) ar gael nawr.

 

Rhannu |