Llyfrau

RSS Icon
11 Hydref 2016

Nofel ddoniol, fyrlymus ac ychydig bach yn ‘cheeky’…

Mae awdures o Surrey, sydd wedi dysgu Cymraeg yn rhugl, wedi cyhoeddi nofel newydd ddoniol am griw o ddysgwyr.

Bydd Dysgu Byw gan Sarah Reynolds yn cael ei lansio yn yr Atom yng Nghaerfyrddin nos Fercher, 2 Tachwedd.

Mae Sarah Reynolds, sy’n dod yn wreiddiol o Reigate, wedi bod yn dysgu Cymraeg ers tua saith mlynedd bellach.

“Nes i briodi Cymro Cymraeg… Nes i gwrdd â fe ar blind date yn Llunden, a nath e ddysgu fi i ddweud ‘prynhawn da’ ar y date cyntaf hwnnw, a dyna lle ddechreuodd y
cyfan i fi.

"O’n i’n deall o’r cychwyn pa mor bwysig odd yr iaith Gymraeg iddo fe.”

Ar y pryd, roedd y ddau’n gweithio ym myd teledu yn Llundain ac yn mwynhau’r bywyd dinesig, ac roedd Sarah yn gweithio i gyfresi fel Big Brother.

Ar ôl priodi, symudodd y ddau i Gaerfyrddin ac aeth Sarah ati o ddifrif i ddysgu’r Gymraeg.

Eleni cyrhaeddodd Sarah rownd derfynol Dysgwr y Flwyddyn yn Eisteddfod Genedlaethol y Fenni.

Mae nofel Sarah yn Gymraeg, Dysgu Byw, yn nofel hynod ddoniol - romp comig sy’n dilyn hynt a helynt criw o ddysgwyr mewn dosbarth nos.

Mae’r nofel yn dechrau gyda hanes tiwtor y dosbarth, Siwan James, sy’n dymuno bod yn unrhyw le arall ond yn sefyll o flaen y criw amrywiol o ddysgwyr. Bu Siwan yn actores ar Pobol y Cwm ar un adeg (nid bod neb yn cofio hynny!) ac mae hi’n dymuno bod yn ôl yn seren ar y sgrin, nid yn gwywo wrth wrando ar bobl yn manglo’r iaith ac yn merwino’i chlustiau.

Mae gan bob un o’r cymeriadau stori wahanol ac fe glywn yr hanes i gyd drwy’r lleisiau unigol amrywiol sy’n rhan o’r dosbarth.

Mae Sarah wedi defnyddio peth o’i phrofiadau hi o ddysgu’r Gymraeg a’i blethu i’r testun.

Yn ôl Sarah: “Dyw’r daith ddim wedi bod yn hawdd wrth i fi ddysgu ond dwi wedi chwerthin llawer ar hyd y ffordd.

"Ro’n i eisiau rhannu peth o’r straeon hynny gyda phobl ynghyd â phrofiadau pobl eraill
dwi’n nabod sydd wedi dysgu hefyd.”

Meddai Bethan Gwanas “Chwa o awyr iach! Dwi wedi gwenu, gwingo a chwerthin yn uchel. Mae hon yn berl.”

Mae Dysgu Byw ar gael yn eich siop lyfrau leol neu ar http://www.gomer.co.uk

Rhannu |