Llyfrau

RSS Icon
10 Hydref 2016

Cofiant Gwenallt gan Alan Llwyd - ‘Grenâd mewn gwniadur’

MI FYDD cofiant i un o feirdd disgleiriaf yr ugeinfed ganrif, D. Gwenallt Jones, yn cael ei lansio’n swyddogol yn Nhŷ’r Gwrhyd, Pontardawe, nos Wener 14 Hydref.

Gwenallt - Cofio D. Gwenallt Jones 1899 - 1968 yw ffrwyth ymchwil diweddaraf y Prifardd a’r Athro Alan Llwyd, a gafodd ei benodi’n Athro yn Academi Hywel Teifi Prifysgol Abertawe yn 2013.

Wedi’i chyhoeddi gan wasg Y Lolfa, dyma’r gyfrol ddiweddaraf yng nghyfres boblogaidd o gofiannau Alan Llwyd.

Ymddangosodd ei gofiant dadleuol i Kate Roberts yn 2011, ei gofiant i R. Williams Parry yn 2013, a’i gofiant i Waldo Williams yn 2014.

Galwyd pob un o’r cofiannau hyn yn gampweithiau.

Portread o fardd gwrthryfelgar ac o lenor aflonydd a geir yn cofiant hwn.

Mae ynddo lawer iawn o bethau newydd, a’r cyfan yn taflu goleuni newydd ar yrfa, bywyd a gwaith Gwenallt.

Ymhlith y deunydd newydd hwn ceir tua thrigain o gerddi o waith Gwenallt na welsant olau dydd erioed o’r blaen.

“Mae’r cerddi hyn yn allweddol o safbwynt deall twf a datblygiad Gwenallt,” meddai Alan Llwyd.

“Y rhain yw’r cerddi coll yng ngwaith Gwenallt, y cerddi sy’n pontio’r ffin rhwng yr awdlau rhamantaidd cynnar, Ynys Enlli, Cyfnos a Gwawr, Y Mynach, a cherddi aeddfed diweddarach Ysgubau’r Awen.”

Bu’r awdur hefyd yn ddigon ffodus i gael gafael ar ddogfen yn dwyn y teitl Wanderings, sef atgofion Albert Davies, cyfaill bore oes a chyfaill gweddill oes i Gwenallt, am anturiaethau’r ddau, gan gynnwys eu cyfnod yn y carchar adeg y Rhyfel Byd Cyntaf.

Cafodd Alan Llwyd hefyd afael ar y copïau gwreiddiol o lythyrau Gwenallt at Albert Davies, yn ogystal â chopïau gwreiddiol o’i lythyrau at ei gyfaill mawr arall, B. J. Morse. 

Yn ôl Alan Llwyd: “Mae’r llythyrau hyn gan Gwenallt at ei ddau gyfaill pennaf yn hynod o ddadlennol, o safbwynt y gwaith a’r bywyd, a’r ddau yn un yn aml.”

Mae Alan Llwyd hefyd yn cynnig tystiolaeth bendant ddiymwad ynghylch union amgylchiadau carcharu Gwenallt adeg y Rhyfel Byd Cyntaf, gan olrhain ei gamau yn ystod y cyfnod cythryblus hwnnw yn ei hanes yn ofalus ac yn fanwl.

Er mai byr oedd Gwenallt o ran corffolaeth, yr oedd iddo bersonoliaeth ffrwydrol, ymfflamychol a natur wrthryfelgar a phrotestgar.

Fe’i disgrifir gan ei gofiannydd fel ‘grenâd mewn gwniadur’.

Dyma gofiant cynhwysfawr a chaboledig, a hynod ddadlennol, i un o feirdd mwyaf Cymru.

Meddai Dr Ffrancon, cyfarwyddwr Academi Hywel Teifi: “Mae’n fraint cael cynnal y digwyddiad hwn ac mae’n gwbl addas ein bod yn dathlu cyfrol arbennig yr Athro Alan Llwyd ar Gwenallt yn Nhŷ’r Gwrhyd, â’r ganolfan ynghanol bro mebyd y bardd ym Mhontardawe.

“O fewn Tŷ’r Gwrhyd mae englyn gan Alan Llwyd sy’n cyfeirio at Gwenallt,  gan ddweud:
Ni bydd Gwenallt yn alltud mwy’n ei gwm,
nac iaith dyddiau’i febyd,
na’r Gweithiau ar gau i gyd
tra agorir Tŷ’r Gwrhyd.”

“Ac mae noson fel hon yn sicrhau bod Cymreictod a threftadaeth Cwm Tawe a’r cylch yn cael eu dathlu a’u hamlygu o fewn canolfan sydd wedi ei chreu’n bwrpasol i ennyn balchder yn y pethau hynny.”
• Gwenallt – Cofio D. Gwenallt Jones 1899 – 1968, Alan Llwyd, Y Lolfa, £19.99

Rhannu |