Llyfrau

RSS Icon
06 Hydref 2016

Cofiant dadlennol am un o sêr canu mwyaf yr 20fed ganrif

Roedd David Lloyd yn un o gantorion mwyaf disglair ac adnabyddus Cymru a thyrrai pobl yn eu miloedd i’w weld yn perfformio. Roedd ‘melys lais’ yr hogyn o Drelogan yn gyfarwydd drwy Gymru, Lloegr ac Ewrop.

Yn ei ysgrif er cof am y tenor, dyweddodd Rhydwen Williams: “Heb ddeall ei waeau a’i ddelfrydau, a’r natur ddynol ddi-ildio a berthynai iddo, mae’n amhosib deall y canwr na’r gân fawr a ddaeth o’i ymysgaroedd.

"Roedd rhai o’r nodau angerddol a lesmeiriodd genedl gyfan am gyfnod mor hir yn dod o ddyfnderoedd na chafodd ond ychydig eu dirnad, ac fe all am hynny o reswm mai ychydig oedd yn ei ddeall hefyd.

“Rhyw ddydd, cyn dyfod cenhedlaeth nad adnabu David Lloyd, gall y daw rhywun heibio i bortreadu’n deilwng y llestr bregus a ddaliodd ddawn mor fawr, ac i ddweud wrth Gymru beth yw’r pris pan fyn eilunaddoli ambell un o’i meibion.”

A dyna yw bwriad Hywel Gwynfryn yn ei gyfrol sydd newydd ei chyhoeddi gan Wasg Gomer, David Lloyd – Llestr Bregus.

Er gwaethaf ei lwyddiant a’i boblogrwydd, fel yn achos nifer o arwyr, roedd ochr fregus iawn i gymeriad y tenor a gipiodd galonnau Cymru â’i wedd olygus a’i lais cyfareddol.

Dywedodd Hywel Gwynfryn: “Nid oes yma ymgais i ddadansoddi David Lloyd y canwr.

"Mae pawb a’i clywodd o’r un farn, sef ei fod yn denor o’r radd flaenaf… Pam, felly, fod y disgrifiad o David Lloyd fel llestr bregus mor dreiddgar o addas? Ymgais yw’r cofiant hwn i ateb y cwestiwn hwnnw, a ‘dweud y stori’n iawn’.”

Er mwyn cyflwyno cipolwg unigryw o fywyd David Lloyd, mae Hywel yn mynd i’r afael â’r straeon am fercheta, problemau yfed, iselder a’r pwysau cyson a deimlai’r tenor i ddiddanu’i edmygwyr.

Pan gafodd David Lloyd ddamwain gas yn 1954, roedd cryn amheuaeth a ddeuai fyth yn ei ôl i’r llwyfan.

Felly beth fu ei hanes?

Ydy hi’n wir fod wedi derbyn cytundeb gan gwmni opera’r Metropolitan yn Efrog Newydd yn y 1930au?

A aeth i ganu ar lwyfan Glyndebourne heb gael clyweliad, hyd yn oed?

A pha fath o ddyn oedd y tu ôl i’r llais?

Ychwanega Hywel: “Y cyfnodau hynny pan nad oedd cynulleidfa’n ei eilunaddoli oedd yr adegau mwyaf anodd i David ddygymod efo nhw. Roedd bywyd yn annioddefol o boenus i David heb gyffur y gân.”

Mae David Lloyd: Llestr Bregus bellach ar gael yn eich siop lyfrau leol am £8.99 neu’n uniongyrchol oddi wrth y cyhoeddwr, Gwasg Gomer www.gomer.co.uk

Rhannu |