Llyfrau
Hogyn o'r Felin, hunangofiant Gareth Lewis
Wedi dros 55 o flynyddoedd fel actor a deugain mlynedd yn chwarae rhan Meic Pierce ar Pobol y Cwm, aeth Gareth Lewis ati i ysgrifennu ei hunangofiant – Hogyn o’r Felin.
Mae’n debyg mai Gareth yw’r 7fed ar y rhestr o actorion sydd wedi gweithio hiraf fel cymeriad mewn opera sebon yn y DU.
Ond pwy yw’r dyn tu ôl i’r cymeriad adnabyddus a beth oedd y rhesymau tu ôl i’r penderfyniad i adael Pobol y Cwm y llynedd?
Gareth oedd llais Sam Tân a’r holl gymeriadau yn yr 80au (gan gynnwys cath Bella Lasagne!) a bydd nifer hefyd yn ei gofio fel rhan o dîm yr anfarwol, Torri Gwynt yng nghwmni Dewi Pws, William Thomas a Nia Caron.
Mae’r gyfrol, a gyhoeddir gan Wasg Gomer, yn fwrlwm o hwyl ei blentyndod yn y 1950au, hanes ei deulu, cyffro ac antur yr arddegau yn ogystal â’r profiadau trist ac anodd o golli rhieni, tor-priodas a salwch.
Ceir digon o hiwmor hefyd wrth iddo hel straeon tu ôl i’r llenni am y gwaith actio a’i gwnaeth yn enwog dros y blynyddoedd.
Ysgrifenna’n deimladwy am ei deulu ac am y profiad o golli ei olwg ac effaith hynny ar ei yrfa.
Mae wedi ei gofrestru fel rhywun rhannol ddall ac yn defnyddio ffon wen o bryd i’w gilydd.
Dywedodd Gareth: “Mi roedd y penderfyniad i ddefnyddio ffon wen yn un anodd i mi, ac mi alla i’n hawdd ddychmygu’r broblem gaiff ambell un i ‘ddod allan’ fel tae.
"Felly’n union roeddwn i’n teimlo wrth ystyried ‘mynd yn gyhoeddus’ am fy nhrafferth gyda’m golwg – rhywbeth preifat, personol oedd o cynt, a nawr mi fyddai pawb yn gwybod.
“Mi fûm i’n petruso’n hir ond yn y pen draw, doedd gen i fawr o ddewis.
"Ac ymhen y flwyddyn, dwi’n gobeithio cael ci i’m harwain ar hyd y lle.
"Mi fydd hynny’n brofiad, siŵr o fod..!”
Bydd llyfr llafar hefyd ar gael i ddefnyddwyr gwasanaeth Llyfrau Llafar Cymru yn fuan.
Llais cyfarwydd Alun Charles, sydd hefyd yn un o awduron Gomer, fydd yn adrodd stori Gareth Lewis.
Cynhelir dwy noson i ddathlu lansio’r gyfrol:
- Tafarn y Fic, Y Felinheli nos Iau, 13eg o Hydref am 7 o’r gloch
- Caffi Bar yr Hen Lyfrgell, Yr Ais, Caerdydd nos Fawrth, 18fed o Hydref am 7 o’r gloch
Croeso cynnes i bawb!