Llyfrau

RSS Icon
05 Medi 2016

Aelod Cynulliad yn ysbrydoli nofel

YR aelod cynulliad Elin Jones oedd un o brif ysbrydoliaeth awdur newydd wrth iddi ysgrifennu ei nofel gyntaf yn y Gymraeg.

Roedd canolfan Y Morlan yn Aberystwyth dan ei sang pan ddaeth dros cant o bobl i wrando ar y sgwrsio rhwng  Elin Jones AC, yr adolygydd Catrin Beard â’r awdures leol Dana Edwards.

Roedd y dair yno i drafod yr ysbrydoliaeth â’r cefndir tu ôl nofel newydd Dana, Pam?
Mae Pam? yn adrodd hanes Pam, Gwennan a Rhodri wrth iddyn nhw adael coleg a gwneud eu ffordd yn y byd yn ystod y ddegawd gythryblus sy’n arwain at sefydlu Cynulliad Cymru.

Ond mae’r tri’n rhannu cyfrinach, ac wrth iddyn nhw ddechrau mwynhau eu statws, a’r holl bethau eraill a ddaw yn sgil gyrfaoedd llewyrchus, mae’r hyn a ddigwyddodd yn Aber yn bygwth dinistrio popeth.

Cefnlen y nofel yw’r 90au hwyr – cyfnod sefydlu’r Cynulliad Cenedlaethol yng Nghaerdydd, etholiadau cyffrous,a twf cyfryngau Cymreig megis Radio Ceredigion.

Esboniodd Dana iddi ddewis gosod y nofel yn ystod y 90au am ei fod yn “gyfnod gobeithiol, lle roedd yna ymdeimlad gwirioneddol bod modd newid cymdeithas a hynny yn deillio o weithgarwch a brwdfrydedd pobl gyffredin”.

I adlewyrchu nostalgia’r cyfnod chwarewyd hen glasuron pop o’r 90au yn ystod y noson ac roedd hen rifynnau o gylchgrawn Golwg wedi eu gosod ar hyd y neuadd.
Nodwyd bod yna adlais o yrfa Elin Jones yn hynt prif gymeriad y nofel, Pam,  gyda’r ddwy wedi eu hethol yn gynghorwyr lleol â’r ddwy wedi bod yn rhan o fenter Radio Ceredigion. 

“Yn sicr dim ysgrifennu hanes Elin Jones oedd fy mwriad,” meddai Dana, “er wrth gwrs roedd camp Elin, a’r nifer fawr o ferched a sicrhaodd seddau yn y Cynulliad cyntaf yn ysbrydoliaeth.”

“Roedd cynulleidfa wych i lansiad nofel newydd Dana Edwards yn y Morlan ar noson braf o haf yn Aberystwyth,” meddai Elin Jones AC.

“Gwnes i fwynhau’r sgwrs gyda Dana a Catrin Beard – ac i danlinellu’r pwynt unwaith eto, nid fi yw Pam!”

Pam? yw ail nofel Dana Edwards yn dilyn llwyddiant The Other Half yn Saesneg ac fe’i dewiswyd fel Llyfr y Mis Cyngor Llyfrau Cymru ar gyfer Awst.

Mae Pam? gan Dana Edwards (£8.99, Y Lolfa) ar gael nawr.

Llun;  Yr  awdures Dana Edwards gydag Elin Jones AC a'r adolygydd Catrin Beard

Rhannu |