Llyfrau

RSS Icon
30 Awst 2016

Cyhoeddi astudiaeth lawn gyntaf o fywyd a gwaith William Salesbury

Bydd yr astudiaeth lawn gyntaf o fywyd a gwaith William Salesbury a gyhoeddir yr wythnos hon yn edrych ar y tensiynau â’r gwahaniaethau sydd rhwng y cyfraniadau go iawn a wnaeth yn ystod ei fywyd ac yr elyniaeth a ddangosir iddo gan academwyr yr ugeinfed ganrif.

The Life and Work of William Salesbury gan James Pierce yw’r bywgraffiad hirddisgwyliedig ar William Salesbury, ieithyddwr, ysgolhaig a chyfreithiwr o fri oedd yn ymroddedig dros iaith ac un a beryglodd ei fywyd i roi i’w bobl ddysg y chwyldro Dyneiddiol.

William Salesbury oedd prif gyfiethydd y Testament Newydd Cymraeg 1567 ac fe gaiff ei ystried yn un o’r ffigyrau mwyaf arwyddocaol yn hanes yr iaith Gymraeg.

Bu’n ddirprwy Twrnai Gwladol dros Gymru yn 1532. Yn angerddol dros iaith fe lwyddodd i gynhyrchu’r geiriadur Cymraeg cyntaf yn ogystal â’r cyfiethiad cyntaf o’r Testament Newydd i’r Gymraeg – a hyn oll er gwaethaf y peryglon gwleidyddol oedd yn bodoli yn ystod teyrnasiad y Tuduriaid.

Cyflwynodd ei wlad i'r gair printiedig, i ddysg y Dadeni a dyneiddiaeth, a gellir dadlau mae ei waith oes oedd yn gyfrifol am achub yr iaith Gymraeg rhag difodiant.

Roedd Salesbury yn ddyn penderfynol a gwleidyddol graff, ond bu difetha ei enw da wedi ei farwolaeth gan ddadlau academaidd.

Bydd The Life and Work of William Salesbury yn ceisio darlunio ei gyfraniadau sylweddol i iaith ac ieithyddiaeth, gyda’r gobaith o’i adfer fel un o ysgolheigion mwyaf dylanwadol Cymru.

"Yn gyfaill a chyd-weithiwr i Ridley, Cecil, William Herbert a John Dee ac yn cael ei gyflogi gan yr enwog Richard Rich, roedd trafferthion priodasol, anghydfod ewyllys, ymosodiad corfforol, â cholli ei eiddio oll yn taflu cysgod ar ei fywyd personol," meddai’r awdur, James Pierce.

"Ond eto, fe arloesoedd argraffu Cymreig, ysgrifennodd bropaganda ar gyfer Ridley, lluniodd eiriadur, cynhyrchodd gyfeithiadau helaeth o’r ysgrythurau i’r Gymraeg a’r llyfr gwyddoniaeth cyntaf yn y Saesneg gan oruchwylio darn o ddeddfwriaeth allweddol drwy’r Senedd yn Lloegr," ychwanegodd.

"Bu ei gyfraniad i ddiwylliant a hanes Cymru a Lloegr yn arthurol."

"Dyma ddadl gryf sydd yn gyfraniad gwreiddiol tu hwnt i ysgolheictod," meddai Dr Adrian Morgan.

"Mae’n gofiant hir ddisgwyliedig o un o’r ffigyrau mwyaf arwyddocaol yn hanes yr iaith Gymraeg."

Ganwyd James Pierce yng Ngwent. Astudiodd Gelf yn gyntaf cyn ymuno gyda’r byd dysgu, gan ddod yn arbenigwr EAL fu’n gweithio gyda plant a phobl ifanc ledled y byd.

Dysgodd Gymraeg yn oedolyn ac mae ganddo ddiddordeb mawr mewn ieithoedd a llenyddiaeth. Mae’n briod gyda dau o blant a dau o wyrion.

Mae The Life and Work of William Salesbury gan James Pierce (£14.99, Y Lolfa) ar gael nawr.

 

Rhannu |