Llyfrau

RSS Icon
25 Awst 2016

Hen ffôn a ddygwyd gan y KGB yn ysbrydoli nofel

Hen ffôn oedd unwaith yn eiddo i’r KGB yw’r ysbrydoliaeth am nofel afaelgar newydd sydd yn adrodd hanes brwydr am oroesiad yn erbyn  rhagfarn a ffanatigiaeth.

Wedi ei leoli yn Llydaw, egir Last Rites gan John Humphries gyda ffôn, oedd unwaith yn eiddo i’r KGB, yn canu gyda dynes yn ymbilio am gymorth ar ochr arall y lein. Ond sut all y ffôn fod yn canu os nad yw wedi cysylltu?

Daw’r ffôn yn obsesiwn i’r newyddiadurwr Jack Flynt sydd yn ei gario mewn bag plastig o Paris i Gymru, yna i Île d’Iroise, ynys oddi ar arfordir Ffrainc, sydd yn loches ar gyfer cymuned o siaradwyr Llydaweg eu hiaith sydd yn cuddio cyfrinach dywyll.

Unig obaith Flynt yw i wneud yr hyn y gwnai orau.

Os bydd yn canfod y ddynes ar ben arall y ffôn bydd yn darganfod yr un sydd yn ceisio ei lladd hi – oni bai ei fod yn rhy hwyr.

"Daeth y syniad am y nofel o ddigwyddiad go iawn," eglurodd yr awdur John Humphries.

"Mae’r ffôn KGB yn Last Rites yn bodoli. Fe brynais y teclyn am $5 o siop ail-law yn Tallinn yn Estonia pan oeddwn yno yn darlithio am y cyfryngau mewn cymdeithas rydd." meddai.

"Roedd Estonia newydd dorri’n rhydd o’r Bloc Sofietaidd ac roedd perchenog y siop yn benderfynol bod y ffôn wedi dod o hen bencadlys y KGB yn Tallinn."

Mae Last Rites eisoes wedi cael ei ganmol, gyda’r awdur Terry Breverton yn canmol y nofel fel un ‘afaelgar fydd yn cadw’r darllennydd ar bigau drwyddi draw’.

Mae John Humphries yn gyn-olygydd papur newydd cenedlaethol, newyddiadurwr a gohebydd tramor.

Mae wedi teithio yn eang yn gohebu ar straeon newyddion mawr ac ers ymddeol mae wedi ysgrifennu nifer o lyfrau ffeithiol ar Gymru gan gynnwys ‘Spying for Hitler’ a gyhoeddir gan Wasg Prifysgol Cymru sydd bellach wedi ei gyfiethu i Bortiwgaleg gan gyhoeddwr o Frasil. Dyma ei nofel gyntaf. Mae’n byw yng Ngwent.

 Mae Last Rites gan John Humphries (£8.99, Y Lolfa) ar gael nawr.

 

Rhannu |