Llyfrau

RSS Icon
15 Awst 2016

Cyw yn paratoi am yr ysgol

Mae Cyw a’i ffrindiau yn paratoi am yr ysgol yn y trydydd yn y gyfres o lyfrau stori Cyw.

Mae Cyw yn yr Ysgol gan Anni Llŷn yn dangos Cyw yn paratoi ar gyfer ei ddiwrnod cyntaf yn yr ysgol.

Meddai Sioned Wyn Roberts, Comisiynydd Cynnwys Plant S4C: "Mae Cyw a’i ffrindiau annwyl Deryn, Bolgi, Llew, Plwmp a Jangl yn ffefrynnau gyda’r darllenwyr ifanc ac mae Cyw yn yr Ysgol yn gyfle i blant ddilyn profiadau Cyw yn yr ystafell ddosbarth.

"Mae S4C yn hapus iawn i gael cydweithio gyda Boom Plant a’r Lolfa ar y llyfr sydd wedi’i sgwennu gan y cyflwynydd a’r awdures Anni Llŷn."

Mae’r llyfr  yn berffaith ar gyfer plant bach i ddysgu geirfa sy’n gysylltiedig â’r ysgol gan uniaethu â phrofiad Cyw am fynd i’r ysgol am y tro cyntaf.

Bydd y pedwerydd yn y gyfres, Cyw yn yr Ysbyty, yn cael ei gyhoeddi yn nhymor yr Hydref cyn i Sioe Cyw fynd ar daith cyn y Nadolig.

Mae Cyw yn yr Ysgol gan Anni Llŷn (£3.95, Y Lolfa) ar gael nawr.

Rhannu |