Llyfrau

RSS Icon
12 Awst 2016

Llyfr Bach Priodas, anrheg perffaith i unrhyw un sydd ar fin priodi neu sy’n dathlu pen-blwydd priodas

Sdim byd fel priodas dda oes e? Digwyddiad hapus sy’n dod â phobl o bob oed at ei gilydd, yn deulu ac yn ffrindiau. Pawb yn gwenu a phob un yn eu dillad gorau.

Mae Gwasg Gomer yn cyhoeddi cyfrol Llyfr Bach Priodas, anrheg perffaith i unrhyw un sydd ar fin priodi neu sy’n dathlu pen-blwydd priodas.

Comisiynwyd deuddeg bardd i gyfrannu cerdd am briodas i’r gyfrol – maen nhw’n gerddi newydd sbon a byddai modd darllen unrhyw un ohonynt fel rhan o seremoni briodasol – daw’r cerddi hyn atoch gyda chariad!

Yn ogystal â’r cerddi, mae straeon gan bobl o bob cwr o Gymru.

Bu golygydd y gyfrol, Elinor Wyn Reynolds, ar raglen Prynhawn Da yn gofyn i’r gwylwyr am eu straeon nhw ac yn wir fe gafwyd hanesion difyr am sut y cwrddodd pobl â’i gilydd neu am ddiwrnod eu priodas.

Mae’r gyfrol yn un hyfryd i edrych arni hefyd am ei bod hi’n llawn lluniau priodasau sy’n dod o bob degawd yn yr ugeinfed ganrif ymlaen hyd at heddiw.

Dyma gyfrol i’w thrysori. Cyfrol sy’n dathlu priodas yw Llyfr Bach Priodas, mae’n gyfrol hapus sy’n dod â gwên i’r wyneb, fe gewch amser braf iawn yn pori drwy’r lluniau a’r geiriau.

Yn ogystal â’r gyfrol yn llawn straeon, cerddi a lluniau; gallwch brynu llyfr nodiadau Priodas sy’n chwaer gyfrol iddi – llyfr bach perffaith i gadw’r holl nodiadau a rhifau ffôn sydd eu hangen ar gyfer trefnu’r diwrnod mawr.

Mae Llyfr Bach Priodas ar gael yn eich siop lyfrau leol am £9.99 neu’n uniongyrchol oddi wrth y cyhoeddwr, Gwasg Gomer www.gomer.co.uk

Rhannu |