Llyfrau

RSS Icon
11 Awst 2016

Llyfr newydd yn ceisio rhoi 'hyder' a 'hunan-gred' i ddysgwyr Cymraeg

Mae nifer o lyfrau ar gael i gynorthwyo dysgwyr Cymraeg ond prin iawn yw’r rhai sydd yn ymdrin â defnydio’r Gymraeg tu allan i’r ystafell ddosbarth.

Mae Speak Welsh Outside Class – You Can Do It! gan Dr Lynda Pritchard Newcombe yn lyfr ar gyfer dysgwyr Cymraeg sydd yn rhoi cyngor ar sut i fod yn fwy hyderus yn siarad Cymraeg tu allan i’r dosbarth ac yn y gymuned.

Mae’r llyfryn yn addas ar gyfer dysgwyr Cymraeg o bob oed, tiwtoriaid Cymraeg i Oedolion, ac mae digon o cyngor ar gyfer siaradwyr Cymraeg i roi cymorth i ddysgwyr ddatblygu eu hyder.

Cafodd Dr Lynda Pritchard Newcombe ei geni yn Dowlais, Merthyr Tydfil ac mae wedi byw yng Nghaerdydd ers 1970. Fe ddaeth hi’n rhugl yn y Cymraeg yn oedolyn.

"Er bod fy nghefndir teuluol yn Gymreig – roedd fy Mam-gu a’n Nhad-cu ar ochr fy Nhad o Llanllechid a fy Mam-gu a’n Nhad-cu ar ochr fy Mam o Gwm Gwendraeth, doedd gen i ddim yr hyder i siarad Cymraeg nes i mi fynychu WLPAN a chyrsiau pellach ym Mhrifysgol Caerdydd yn 1990," meddai Lynda.

Mae Lynda wedi ysgrifennu nifer o erthyglau a llyfrau am ddysgu’r Gymraeg ac mae ganddi flynyddoedd o brofiad yn dysgu oedolion ieithoedd modern yn ogystal a chymryd rhan mewn amryw o brosiectau ymchwil ar ddwyieithrwydd

"Dyw’r sefyllfa ddim yn unigryw i Gymru yn unig ac fe gaiff ei phrofi gan ddysgwyr ail iaith mewn nifer o wledydd eraill," meddai Lynda. "Er enghraifft, dysgwyr Catalneg yn Sbaen neu ddysgwyr Maori yn Seland Newydd yn ogysatl â dysgwyr Javanese yn Indonesia.

"Mae nifer o lyfrau ar gael i ddysgwyr ond nifer bach sydd yn trafod y materion sydd yng nghlwm a dysgu’r iaith tu hwnt i’r dosbarth," eglurodd Lynda.

"O fy mhrofiad i fel tiwtor ac ymchwilydd fe welaf fod nifer o ddysgwyr yn rhoi’r gorau i ddefnyddio’r Gymraeg yn eu cymunedau am nad oes ganddynt ddigon o hunan-gred a hyder ac efallai ddim yn teimlo eu bod nhw’n cael digon o gefnogaeth gan siaradwyr Cymraeg.

"Mae’r sefyllfa yn un gymhleth ac anodd a ni ddylid rhoi’r bai ar ddysgwyr neu siaradwyr rhugl," meddai Lynda.

"Mae’r llyfr hwn yn ceisio cynorthwyo dysgwyr a’r Cymry Cymraeg i ddeall ei gilydd.

"Mae’r iaith Gymraeg yn drysor i ni ddefnyddio, rhannu a’i fwynhau," meddai’r tiwtor Cymraeg Nia Parry.

"Mae’r llyfr hwn yn rhoi cyngor ac arweiniad euraidd i ddysgwyr a siaradwyr Cymraeg wrth iddynt fynd ar eu taith o ddysgu a defnyddio’r iaith Gymraeg ar bob cyfle."

Mae Speak Welsh Outside Class – You Can Do It! gan Dr Lynda Pritchard Newcombe (£5.99, Y Lolfa) ar gael nawr.

Rhannu |