Llyfrau

RSS Icon
09 Awst 2016

Golwg ar archaeoleg unigryw ucheldir Gwent

CAFODD Archaeoleg Ucheldir Gwent gan Frank Olding, cadeirydd yr Eisteddfod eleni, ei lansio yn Y Lle Hanes yr wythnos ddiwethaf.

Ffurfiwyd cymeriad arbennig cymoedd de Cymru a’u cymunedau gan gyfuniad o’u tirwedd a’u hanes, ac yn y Blaenau cewch drysorfa o henebion archaeolegol sy’n dangos sut mae pobl wedi byw, wedi gweithio ac wedi amaethu yno o’r oesoedd cynharaf hyd at y gorffennol diweddar.

Mae’r llyfr hwn gan Frank Olding, Swyddog Treftadaeth Blaenau Gwent, aelod o’r Orsedd a chadeirydd Pwyllgor Llywio yr Eisteddfod Genedlaethol eleni, yn mynd â’r darllenydd ar daith o offer fflint a bryngaerau cynhanes ymlaen i wrthryfel y Siartwyr a diwydiannau’r ugeinfed ganrif. 

Mae’n gyforiog o luniau a dynnwyd ar lawr gwlad ac o’r awyr, ac o fapiau, cynlluniau a lluniau hanesyddol.

Cewch hefyd eitemau nodwedd sy’n cynnig mewnwelediadau gan arbenigwyr i feysydd megis Mynwent Colera Cefn Golau, eglwysi uwchdirol Bedwellte a Llanhiledd, a Chaer Rufeinig Gelligaer.

Archaeoleg Ucheldir Gwent yw’r gyfrol ddiweddaraf gan y Comisiwn Brenhinol ar archaeoleg a hanes ucheldiroedd Cymru. Mae’n rhan o ymrwymiad y Comisiwn, dros gyfnod o bum mlynedd ar hugain, i wneud arolygon archaeolegol cynhwysfawr o ucheldiroedd Cymru.

Meddai Frank Olding: “Mae’n hyfryd cael bwrw’r gyfrol hon i’r byd o’r diwedd.  Gobeithio ei bod yn deyrnged deilwng i archaeoleg unigryw ucheldir Gwent.

“Fel un a aned yn yr ardal, braint enfawr oedd cael gwahoddiad i lunio’r gyfrol hon a mawr yw fy niolch i holl staff y Comisiwn am eu cefnogaeth a’u hymroddiad.”

Y Comisiwn Brenhinol, a sefydlwyd ym 1908, yw’r corff cenedlaethol sy’n gyfrifol am arolygu a chofnodi archaeoleg ac adeiladau Cymru. Mae’n cynnal Cofnod Henebion Cenedlaethol Cymru, yr archif gweledol mwyaf yn y wlad, lle cedwir mwy na dau filiwn o ffotograffau a 125,000 o luniadau yn ogystal â llawer o gofnodion eraill.

Pris y llyfr yw £14.95 ac mae ar gael gan Gomisiwn Brenhinol Henebion Cymru a phob siop lyfrau dda.

Rhannu |