Llyfrau

RSS Icon
01 Awst 2016

Lansio Plant y Dyfroedd, nofel newydd Aled Islwyn

Bydd Gwasg Gomer yn lansio nofel newydd Aled Islwyn, Plant y Dyfroedd, am 1 o'r gloch ym mhabell Prifysgol Caerdydd yn yr Eisteddfod Genedlaethol yfory gyda sgwrs rhwng Aled a Dylan Foster Evans.

Maestref ddychmygol o’n prifddinas yw “Y Dyfroedd” enw sy’n cuddio hanes trychineb hen anghofiwyd.

Wrth i’r Ysgol Gynradd Gymraeg ddathlu hanner can mlwyddiant â Rwth ar ofyn Oswyn Morris y Prifathro cyntaf i’w holi am eu hatgofion.

Pedair blynedd ers iddo gychwyn ymchwilio a chreu; mae’r nofelydd Aled Islwyn yn barod i’n denu i fyd newydd - byd Oswyn Morris.

Dyma’r cymeriad sy’n tywys y darllenydd i fyd pedair stori sy’n cyd-weu â’r prif naratif.

Mae’r straeon ffuglennol yn seiliedig ar hen hanesion ardal Caerdydd.

Dyma'r un-arddegfed nofel wrth Aled Islwyn, sy’n gyn enillydd ar gystadleuaeth Llyfr y Flwyddyn a Gwobr Goffa Daniel Owen (1980 a 1985) .

Mae wedi ei “ysbrydoli gan y ffordd mae pobl yn cyfathrebu ffaith; sy’n troi’n hanes, cyn mynd yn stori i’w hail adrodd.

"Dyma’r sail a’r symbyliad i’r ysgrifennu.

"Mae’r nofel yn dehongli yr hyn sydd wedi mynd o’r blaen a sut mae canfod y wybodaeth yna’n siapio bywyd y cymeriadau i’r dyfodol ”

Mewn byd modern sy’n chwilio am straeon cyfleus i'w hail-adrodd mae'r “hanesion” mae Rwth yn tyrchu amdanynt yn cael effaith ar llwybr eu dyfodol, gan ennyn chwilfrydedd ag amheuaeth ynddi am yn ail am ei pherthynas da’i merch Elin a’i chariad Russ.

Mae’r nofel aml-haenog yn mynd â’r darllenydd yn ôl i sawl cyfnod i brofi straeon sy’ bellach yn rhan o’n hanes, yn celu dan y tir a’r dwr yn ardal “Y Dyfroedd”.

Rhannu |