Llyfrau

RSS Icon
14 Gorffennaf 2016

Ysgrifennu llyfr yn help i symud ymlaen hanner can mlynedd ar ôl trychineb Aberfan

AR yr 21ain o Hydref 1966, fe gafodd pentref Aberfan ym Merthyr Tydful ei hysgwyd gan un o’r trychinebau mwyaf yn hanes Cymru a Phrydain.

Yn dilyn diwrnodau o dywydd gwael, roedd dŵr o ffynnon wedi ansefydlogi tomen enfawr o slag glo – un o’r mynyddoedd duon a amgylchynnai’r pentref.

Llithrodd miloedd o dunelli o’r gwastraff glo i lawr ochr y mynydd gan daro pentref Aberfan islaw. Chwalodd y gwastraff du drwy’r ysgol leol, ble bu’r disgyblion yn dathlu diwrnod olaf y tymor.

Lladdwyd 144 o bobl. Roedd 116 yn blant ysgol. Roedd Gaynor Madgwick yno. Roedd hi’n wyth mlwydd oed ac fe’i hanafwyd hi’n ddifrifol. Roedd ei brawd a’i chwaer mewn dosbarthiadau naill ochr iddi. Bu farw y ddau.

Wrth gofio’r digwyddiad trychinebus bedair mlynedd yn ddiweddarach, fe ysgrifennodd Gaynor mewn dyddiadur: “Fe glywais sŵn erchyll, ofnadwy. Sŵn grwgnach. Roedd e mor uchel. Doeddwn i ddim yn gwybod beth yn y byd oedd e. Roedd e fel tase’r ysgol i gyd wedi mynd yn dawel. Fferais yn fy unfan dan ofn, wedi fy nghludo i’r gadair. Roedd e fel tase diwedd y byd wedi dod.”

Yn Aberfan – A Story of Survival, Love and Community in One Of Britain’s Worst Disasters, fe adroddiad Gaynor ei hanes ei hun tra’n cyfweld pobl gafodd ei heffeithio gan y diwrnod hwnnw – o’r rhai fu’n galaru i’r achubwyr, i’r heddlu a’r teulu brenhinol.

Edrychai Gaynor ar natur dewrder, galar a ffydd i greu hanes bersonol deimladwy o alar un teulu yn ogystal a darlun pendant o’r digwyddiadau ysgwydodd y genedl a’r byd.

“Dros y 50 mlynedd diwethaf bûm yn garcharor i fy ngorffennol. Nawr rwy’n ceisio torri’n rhydd,” meddai Gaynor.

“Dechreuais ysgrifennu’r llyfr hwn drwy edrych eto ar beth ysgrifennais fel plentyn.

“Ceisiais chwilio am y dewrder a’r gwydnwch ddaeth a fi drwy’r cyfan.

“Yna, dechreuais ar daith, i geisio dod o hyd i’r un nodweddion hynny yn fy nghymuned, i weld sut yr oedd hithau hefyd wedi ymdopi, goroesi, a ffynnu.”

Meddai Iarll Snowdon – oedd yno tair awr wedi’r drychineb – mai hwnnw oedd “un o brofiadau mwyaf ysgwytol o ‘mywyd.’”

“Mae llyfr Gaynor Madgwick, Aberfan, yn daith o ddewrder, torcalon, ac ysbrydoliaeth ble y mae hi’n ail-ymweld a’r stori hyn o beth ddigwyddodd iddi hi a’i chymuned yn Aberfan ar y diwrnod ofnadwy hwnnw,” meddai ef. 

“Mae’n lyfr y dylid gael ei ddarllen gan bob un ohonom er cof am y rhai fu farw a’r rhai oroesoedd.”

Meddai’r darlledwr Vincent Kane: “Cafodd Gaynor Madgwick ei thynnu allan o’r dosbarth ble bu ei ffrindiau hi farw. Cafodd ei gadael ar ôl i fyw ei bywyd. Dyma ei stori hi – stori trist, melys, a diffuant. Darllennwch hi.”

“Mae Hydref 2016 yn nodi hanner canmlwyddiant y diwrnod ofnadwy hwnnw. Am 50 mlynedd rydym ni wedi bod yn ceisio ymdopi wedi trychineb Aberfan. Mae hi’n lôn hir, ac rydym ni yn ei chymryd hi un dydd ar y tro,” meddai Gaynor.

“Ceisiais adrodd yr hanes mewn ffordd sydd ddim wedi cael ei hadrodd o’r blaen, gan ddechrau drwy ail-fyw Aberfan drwy lygaid un a oroesoedd.

“Fel goroeswr sydd bellach yn 58 mlwydd oed, mae atgofion trychineb Aberfan wedi dod nôl i’m llethu dro ar ôl tro,” meddai hi.

“Roeddwn i am geisio creu y darlun llawnaf o’r drychineb a’i ganlyniadau tra bod pobl dal o gwmpas i adrodd eu hanes.

“I mi, ni allaf ddechrau’r bennod nesaf yn fy mywyd os wyf yn parhau i ail-ddarllen yr un ddiwethaf; bydd y llyfr hwn yn fy helpu i symud ymlaen. Fy ngobaith yw y bydd yn helpu eraill i symud ymlaen hefyd.”

Mae Aberfan – A Story of Survival, Love and Community in One of Britain’s Worst Disasters gan Gaynor Madgwick (£9.99, Y Lolfa) ar gael nawr.

Cafodd ei lansio ddydd Mercher diwethaf yn Ysgol Gynradd Gymunedol Ynysowen yn Aberfan, Merthyr Tydfil yng nghmwni Vincent Kane (OBE), Iain Mclean (FBA, FRSE), Greg Lewis, Gaynor Madgwick, Melanie Doel, a Chôr Meibion Ynysowen. Canodd Max Boyce gyda’r côr.

Rhannu |