Llyfrau

RSS Icon
04 Gorffennaf 2016

Lowri Haf Cooke yn chwilio am gaffi gorau Cymru

BYDD Lowri Haf Cooke yn lansio ei chyfrol newydd Caffis Cymru ar 9 Gorffennaf yng Ngŵyl Arall, Caernarfon ac ar 16 Gorffennaf yn Sesiwn Fawr Dolgellau.

Mae’r gyfrol newydd ddeniadol hon yn agor cil y drws ar hanner cant o gaffis ledled Cymru sydd â rhywbeth go arbennig yn eu cylch.

Ar hyd a lled Cymru mae yna gyfoeth o gaffis cartrefol, cŵl a quirky at ddant pawb. Ond nid llefydd i lymeitian y fflat white ffasiynol neu i sglaffio sgons yn unig yw’r rhain.

Y tu ôl i bob tebot a cafetière ceir trysorfa o hanes lleol a straeon personol.

Yn ôl Lowri Haf Cooke: “Ar hyd y blynyddoedd mae’r caffi Cymreig ar ei wahanol weddau wedi bod yn fan cyfarfod a thrafod poblogaidd.

“O dai coffi’r 18fed a’r 19eg ganrif, tai te oes Fictoria, y caffis Bracchi, hyd at y tafarndai llaeth; maent i gyd wedi chwarae rhan bwysig yn hanes cymdeithasol Cymru.

“Ystyriwch y rôl y chwaraeodd yr Homé Cafe cyn protest Pont Trefechan, neu effaith ysgytwol y geiriau ‘Caffi Ffortisimo’ ar Jeifin Jenkins!

“A pheidiwch ag anghofio ‘Pat a Janet ac Elsi a Glen’, sêr cân Tony ac Aloma, ‘Caffi Gaerwen’.

“Erbyn troad y mileniwm, disodlwyd nifer o gaffis lleol gan gewri rhyngwladol y stryd fawr.

“Ond ers rhai blynyddoedd bellach, bu tro ar fyd, wrth i’r ffasiwn droi ’nôl at gaffis annibynnol, tai te, a choffi crefft

 “Ac fel y darganfyddais ar fy nheithiau, ceir croesbeilliad newydd sbon – y caffi-bwyty-delibecws-bar.”

Meddai Lowri: “Beth bynnag yw’ch barn am eich hoff gaffi chi, rydych chi’n siŵr o ganfod ffefryn newydd yma.

“Mae hon yn gyfrol i bawb, ac ar ddiwedd y dydd, does dim angen gwario ffortiwn er mwyn mwynhau yn yr un o’r caffis hyn. 

“Felly estynnwch am baned, ymgollwch ynddi a threfnwch wibdaith ar eich cyfer chi eich hun!”

Mae Caffis Cymru ar gael yn eich siop lyfrau leol am £6.99 neu’n uniongyrchol oddi wrth y cyhoeddwr, Gwasg Gomer ar www.gomer.co.uk

Bydd Lowri Haf Cooke yn trafod y gyfrol yng Ngŵyl Arall, Caernarfon ddydd Sadwrn, 9 Gorffennaf am 11.30am yng Ngerddi’r Emporiwm, tocynnau: £4. Am fwy o wybodaeth ewch i www.gwylarall.com

Ac yna yn Sesiwn Fawr, Dolgellau ddydd Sadwrn, 16 Gorffennaf am 4 o’r gloch yng nghaffi T.H.Roberts gydag Elliw Gwawr. Am fwy o wybodaeth ewch i www.sesiwnfawr.cymru

  • Awdur, darlledwraig a beirniad bwytai i gyhoeddiadau fel Barn, Y Dinesydd, RedHanded magazine yw Lowri Haf Cooke.
  • Mae hefyd yn adolygydd ac yn flogwraig huawdl sy’n teithio’r byd.
  • Merch y ddinas yw hi er bod ganddi wreiddiau ym mhob cwr o Gymru.
  • Caffis Cymru yw ei thrydedd cyfrol i Wasg Gomer, gan ddilyn Canllaw Bach Caerdydd a Pobol y Cwm: Pen-blwydd Hapus 40.
Rhannu |