Llyfrau

RSS Icon
04 Gorffennaf 2016

Colled bersonol yn sbarduno Aneirin Karadog i ddwyn ynghyd ei ail gyfrol o gerddi

COLLED bersonol wnaeth sbarduno Aneirin Karadog i ddwyn ynghyd ei ail gyfrol o gerddi, sef marwolaeth ei gyfnither Cathryn bron i ddwy flynedd yn ôl. 

Mae’r gyfrol hon hefyd yn myfyrio ar y bylchau sy’n cael eu gadael ym mywyd y genedl yn dilyn marwolaeth rhai o gewri ein llên a’n diwylliant.

Ond wrth ystyried goblygiadau colled, mae’r bardd hefyd yn cael ei gymell i feddwl am yr hyn sy’n tyfu yn y bylchau hynny ac i ddathlu yr hyn sy’n cael ei feithrin o’r newydd – genedigaeth ei ferch, Sisial, cael ei benodi’n Fardd Plant Cymru, arwyr megis Nigel Owens, Jamie Bevan, Chris Coleman ac Osian Roberts, a sefydlu Radio Beca.

Mae Bylchau hefyd yn cynnwys cerddi sy’n archwilio perthynas y bardd â  Llydaw, a’r ffaith iddo gael ei fagu ar aelwyd amlieithog yn sŵn y Gymraeg a’r Llydaweg. 
Beth mae bod yn hanner Llydawr yn ei olygu i Aneirin Karadog?

A sut mae’n dylanwadu ar ei agwedd tuag at iaith a diwylliant Cymru?

Sut mae byw yn rhan o fwy nag un diwylliant?

Trwy ei gerddi cynganeddol byrlymus a’i gerddi rhydd telynegol, mae Aneirin Karadog yn fardd sy’n sicr yn cynnig byd-olwg gwahanol i weddill beirdd Cymru ac mae ei afiaith mor heintus ag erioed.

Cyhoeddodd Aneirin ei gyfrol gyntaf o gerddi i oedolion, O Annwn i Geltia, gyda Chyhoeddiadau Barddas yn 2012.

Bu’n dal swydd Bardd Plant Cymru rhwng 2013 a 2015.

Ar hyn o bryd mae’n fyfyriwr ymchwil yn Academi Hywel Teifi, Prifysgol Abertawe ac yn astudio beth yw’r berthynas rhwng y bardd a’i gynulleidfa.

Lansiadau a thaith hyrwyddo Bylchau:

7 Gorffennaf – Y Cwtsh, Pontyberem (gyda Tudur Hallam a Daniel Williams)

9 Gorffennaf – Gŵyl Gerallt, Castell Aberteifi (darlleniadau gan Aneirin Karadog)

3 Awst – Lolfa Lên, Eisteddfod Genedlaethol Y Fenni (darlleniadau gan Aneirin Karadog)

Rhannu |