Llyfrau

RSS Icon
27 Mehefin 2016

Bethan Gwanas - O Botany Bay i Gastell Aberteifi

Bydd un o awduron mwyaf poblogaidd Cymru, Bethan Gwanas, yn ymweld â Chastell Aberteifi ddydd Iau, y 30ain o Fehefin am 10.30 er mwyn trafod ei nofel ddiweddaraf, I Botany Bay, ymhlith ei llyfrau eraill.

Trefnir y digwyddiad hwn gan un o ddosbarthiadau Cymraeg i Oedolion.  

Medd un o’r trefnwyr, Richard Vale: "Mae croeso cynnes i bawb sydd wedi mwynhau y nofel ddirdynnol hon.

"Byddwn yn cwrdd yn Ystafell Tŵr y Castell am 10.30 o’r gloch, a bydd cyfle i holi cwestiynau am y nofel a gwaith Bethan yn gyffredinol."

Lleolir I Botany Bay yn Nolgellau yn 1833. Ynddi, dilynir Ann Lewis – merch ifanc ddeunaw oed sydd yn derbyn swydd newydd mewn siop ddillad yn y dref ac mae gwas ffarm golygus o'r enw Elis Edwards yn dangos diddordeb mawr ynddi. Beth all fynd o'i le?

Mae I Botany Bay wedi derbyn canmoliaeth arbennig gan ddarllennwyr ac adolygwyr fel ei gilydd ers ei chyhoeddi – gyda un adolygydd yn honi mai hon oedd ‘y nofel orau iddi ei ddarllen erioed.’

Am fwy o fanylion am y digwyddiad, cysylltwch â Richard Vale, e-bost riv1@aber.ac.uk neu dros y ffôn ar 01239 711653. Mae mynediad am ddim.

* Mae I Botany Bay gan Bethan Gwanas ar gael nawr (£8.99, Y Lolfa) o wefan Y Lolfa neu siopau llyfrau lleol.

 

Rhannu |