Llyfrau
Llyfr 'Llechi Cymru' yn cyrraedd rhestr fer Gwobrau Archeolegol Prydain
Mae’r rhestr fer ar gyfer Gwobrau Archeolegol Prydain, a roddir am y darganfyddiadau a datblygiadau arloesol diweddaraf ym maes archeoleg ar draws y DU, wedi’i rhyddhau gan y beirniaid.
Mae llyfr newydd David Gwyn ar archeoleg a hanes diwydiant llechi Cymru, a gynhyrchwyd gan Gomisiwn Brenhinol Henebion Cymru, wedi’i roi ar y rhestr fer ar gyfer Gwobr Llyfr Archeoleg Gorau 2016.
Cyhoeddir y canlyniadau yn ystod seremoni cyflwyno Gwobrau Archeolegol Prydain dan arweiniad Julian Richards, y cyflwynydd teledu ac archeolegydd ‘Meet the Ancestors’, yn yr Amgueddfa Brydeinig yn Llundain ar 11 Gorffennaf.
Bydd y seremoni hefyd yn nodi lansio Gŵyl Archeoleg flynyddol Cyngor Archeoleg Prydain a gynhelir rhwng 16 a 31 Gorffennaf. Bydd mwy na 1,000 o ddigwyddiadau y gall y cyhoedd gymryd rhan ynddynt, llawer ohonynt am ddim, yn cael eu cynnal ar hyd a lled Cymru a’r DU.
Caiff y prosiectau a chyhoeddiadau a gynigir ar gyfer Gwobrau Archeolegol Prydain eu beirniadu gan baneli annibynnol o arbenigwyr blaenllaw sy’n gweithio ym mhob maes archeolegol, gan gynnwys y sectorau proffesiynol a gwirfoddol.
Meddai Christopher Catling, Ysgrifennydd Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru: “Mae’n rhyfeddol meddwl bod cymaint ag un rhan o dair o holl lechi to y byd yn dod o Gymru erbyn diwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg.
"Mae’r llyfr hynod ddifyr hwn yn defnyddio tystiolaeth archeolegol a chyfoeth o ffynonellau gwreiddiol a ffotograffau i olrhain hanes y diwydiant a roddodd Cymru ar y map diwydiannol. Rydym wrth ein bodd bod y beirniaid wedi cydnabod camp David a gwaith y Comisiwn Brenhinol.”
Ychwanegodd Dr David Gwyn, awdur y llyfr: “Rydw i’n hynod falch bod fy llyfr wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer y wobr hon, ac o glywed bod y diwydiant pwysig hwn, sydd ar hyn o bryd yn ymgeisydd ar gyfer statws Treftadaeth Byd, wedi dod yn ganolbwynt cymaint o ddiddordeb a sylw yn y gymuned archeolegol.”
- Mae’r llyfr ar gael yn y Gymraeg ac yn y Saesneg:
- Llechi Cymru: Archeoleg a Hanes (ISBN: 978-1871184-52-5).
- Welsh Slate: Archeology and History of an Industry (ISBN: 978-1871184-51-8)
- Llyfrau fformat mawr yw’r rhain, yn cynnwys 291 o dudalennau a 243 o ddelweddau o ansawdd uchel. Y pris yw £45.
Nododd Deborah Williams, Cadeirydd Gwobrau Archeolegol Prydain: “Mae’r cynigion eleni’n adlewyrchu cyfoeth ac amrywiaeth anhygoel y gwaith archeolegol sy’n cael ei wneud yn y Deyrnas Unedig, safon ac arbenigedd ein harcheolegwyr arloesol, a diddordeb cynyddol y cyhoedd yn hanes ac archeoleg eu hardal leol.
“Mae mwy a mwy o archeolegwyr yn ymateb i’r diddordeb hwn drwy ddatblygu ffyrdd newydd o helpu pobl i gymryd rhan mewn gwaith ymchwil a chloddio, i gychwyn eu prosiectau eu hunain, ac i rannu a deall darganfyddiadau newydd – ac mae’r duedd hon i’w gweld yn glir yn y cynigion sydd wedi cyrraedd y rhestr fer.”
Gwelir amrywiaeth eang o brosiectau ar y rhestr fer, o bob rhan o’r DU. Ceir arni gloddiadau mawr yn sgil datblygiadau mewn dinasoedd fel prosiect ‘Westgate Oxford’ gan Oxford Archeology South, ‘London’s Lost Graveyard: the Crossrail Discovery’ a gafodd sylw yn rhaglen ‘Secret History’ cwmni True North Production ar gyfer Sianel 4, a phrosiectau ymchwil tymor-hir gan brifysgolion megis prosiect ‘Silchester Town Life’ a ‘Dig Greater Manchester’.
Ceir hefyd brosiectau cymunedol megis prosiect ‘Hearth, Home and Farm’ Ymddiriedolaeth Whithorn yn Dumfries a Galloway, a phrosiect ‘Battles, Bricks and Bridges’ yn Swydd Fermanagh, yn ogystal â phrosiectau partneriaeth traws-gymunedol sy’n cynhyrchu adnoddau addysgu newydd megis ‘The Picts: a learning resource’ gan Gomisiwn Coedwigaeth yr Alban a’r ‘Ulster-Scots Archeological Services Project’ yng Ngogledd Iwerddon.
Mae nod cyffredin yn uno pob un o’r rhain, sef cynnwys a thanio brwdfrydedd pobl ifanc a’r cyhoedd yn archeoleg Prydain.
Mae’r llyfrau ar y rhestr fer yn adrodd hanes diwydiant llechi Cymru, yn archwilio’r olion cyfoethog ar ynys St Kilda yn Ynysoedd Heledd Allanol, ac yn ein helpu i wneud synnwyr o’r damcaniaethau ynghylch Côr y Cewri, dirgelwch archeolegol pennaf Prydain.
Dethlir ymdrechion archeoleg i hyrwyddo a manteisio ar dechnegau arloesol. Mae app Digital Dig Team a gynhyrchwyd gan DigVentures yn rhannu ‘darganfyddiadau’ cloddio ar unwaith ar-lein ac ar gyfryngau cymdeithasol, a chynhwyswyd animeiddiad papur gydag ‘Under London’ gan National Geographic i helpu’r darllenydd i ddeall cronoleg yr archeoleg o dan y ddinas.
Mae cylchgrawn ‘Internet Archaeology’ a ‘Postglacial Project’ Prifysgol Efrog yn defnyddio Delweddu Trawsffurfiad Adlewyrchiant (RTI), modelu 3D a ffeiliau amlgyfrwng wedi’u mewnblannu i helpu cyd ymchwilwyr a’r cyhoedd i ddehongli darganfyddiadau newydd drostynt eu hunain ac i ddeall yr hyn y maent hwy’n ei ddweud wrthym am y gorffennol a’r byd o’n cwmpas.
Y cynigion sydd wedi cyrraedd y rhestr fer yw:
PROSIECT ARCHEOLEGOL GORAU
‘Silchester Town Life’, Prifysgol Reading
‘Ulster-Scots Archaeological Services Project’, AECOM/The Irish Archaeological Consultancy Ltd
‘Westgate Oxford’, Oxford Archaeology South
PROSIECT ARCHEOLEG GYMUNEDOL GORAU
‘Battles, Bricks and Bridges’, Cymdeithas Gymunedol Cleenish a Chymdeithas Datblygu Cymunedol Killesher
‘Dig Greater Manchester’, Y Ganolfan Archeoleg Gymhwysol, Prifysgol Salford
‘Whithorn: Hearth, Home and Farm’, gyda Dig TV, Ymddiriedolaeth Whithorn
LLYFR ARCHEOLEGOL GORAU
‘St Kilda: The Last and Outmost Isle’, Angela Gannon a George Geddes, Comisiwn Brenhinol Henebion yr Alban
‘Stonehenge: Making sense of a prehistoric mystery’, Mike Parker Pearson gyda Joshua Pollard, Colin Richards, Julian Thomas a Kate Welham, Cyngor Archeoleg Prydain
‘Llechi Cymru – Archeoleg a Hanes’, David Gwyn, Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru
CYFLWYNIAD CYHOEDDUS ARCHEOLEGOL GORAU
‘The Picts: a learning resource’, Comisiwn Coedwigaeth yr Alban
Secret History, ‘London’s Lost Graveyard: The Crossrail Discovery’, True North Productions ar gyfer Sianel 4
‘Under London’, Cylchgrawn y National Geographic
DATBLYGIAD ARLOESOL ARCHEOLEGOL GORAU
‘Digital Dig Team’, DigVentures
‘Internet Archaeology’, Prifysgol Efrog
‘POSTGLACIAL Project’, Prifysgol Efrog
Gallwch weld manylion y prosiectau sydd ar y rhestr fer yn www.archaeologicalawards.com a dilyn hynt y Gwobrau ar Twitter @BAAWARDSUK
Lluniau
1 Darlun o’r ugeinfed ganrif; naddwr yn trin ei gyllell naddu ar lechen wedi’i gosod ar y trafel. Ar y naill ochr a’r llall ohono mae llechi gorffenedig sy’n barod i’w symud i’r iard bentyrru (‘y clwt peilio’). Mae gwast naddu yn cronni wrth ei draed.
2 Ffotograff o’r cei yng Nghaernarfon yng nghanol y bedwaredd ganrif ar bymtheg, yn dangos trol llechi a wagen rheilffordd a oedd yn eiddo i un o chwareli Nantlle.
3 Roedd chwareli Oakeley (chwith), Llechwedd (canol) a Maenofferen, Diffwys, Votty and Bowydd (dde) yn dominyddu tirwedd Ffestiniog.
© Hawlfraint y Goron: Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru