Llyfrau

RSS Icon
06 Mehefin 2016

Nofel am yr Ail Ryfel Byd sydd yn herio ystrydebau hanesyddol

Mae nofel newydd a gyhoeddir yr wythnos hon yn herio ystrydeb sydd yn ymddangos mewn nofelau hanesyddol am yr ail ryfel byd.

Yn Morffin a Mêl gan Sion Hughes fe bortreadir y gymdeithas Ffrengig fel un sydd yn cyfaddawdu ac yn cydymffurfio gyda’r gelyn Natsiaidd sydd yn rheoli’r wlad. Daw hyn yn groes i’r ddelwedd ystradebol gwrthryfelgar y portreadir gan amlaf.

"Yn groes i bropaganda nid oedd y Résistance Française mor amlwg a hynny yn ystod y cyfnod," meddai Sion Hughes.

"Dim ond ambell un oedd ym mhob ardal ac mi roedden nhw’n griw digon di-drefn ac yn amlach na pheidio yn cael eu dal neu eu bradychu gan eu cyd-wladwyr."

"Goroesi a chyfaddawdu – dyna oedd y drefn," ychwanegodd.

Gosodir y nofel yn ystod cyfnod mwyaf tywyll yr Ail Ryfel Byd ac fe’i lleolir yng Nghymru, Llydaw, Paris a’r Almaen.

Dilynai’r nofel hanes Cymro o Fae Colwyn, Ricard Stotzem, sydd â gyrfa addawol fel fiolinydd ond pan ddaw’r rhyfel, mae’n cael ei recriwtio gan yr heddlu cudd i weithio fel ysbïwr.

Mae’n ymsefydlu yn nhre Vannes, ac yn cael gwaith gweini yn y Café Rouge. Ei dasg fydd aros am yr alwad i weithredu.

Mae Ricard yn chwarae’r ffidil er mwyn denu cwsmeriaid, a daw doniau’r cerddor a llwyddiant y Café Rouge i sylw’r Almaenwyr. Ond a fydd y Gestapo’n ei adnabod fel ysbïwr cyn iddo gwblhau ei dasg hollbwysig?

"Mae yma nofel hanesyddol sinematig. Fe’m hatgoffir o ran naws i The English Patient," meddai’r awdur a’r academydd, Angharad Price.

Mae Sion Hughes yn byw yng Nghaerdydd gyda’i wraig a thri o blant ond daw’n wreiddiol o Benmynydd yn ardal Llanfairpwll yn Ynys Môn.

Mae’n gweithio yn y diwydiant teledu ac wedi cynhyrchu rhaglenni ar gyfer S4C a’r farchnad ryngwladol. Mae bellach yn ymgynghorydd cyfeithiol. Dyma ei ail nofel ar ôl cyhoeddi Llythyrau yn y Llwch yn 2014.

Bydd y nofel yn cael ei lansio yn swyddogol yn adeilad y Women’s Institute yn Llanfairpwll ar 23 Mehefin.

Mae Morffin a Mêl gan Sion Hughes (£7.99, Y Lolfa) ar gael nawr.

Rhannu |