Llyfrau

RSS Icon
17 Mai 2016

Bardd Plant Cymru yn defnyddio Trydar i lansio ei chyfrol newydd

Rhwng 8 a 9 o’r gloch nos Fercher , yn ystod yr Awr Gymraeg, bydd Anni Llŷn yn lansio ei chyfrol newydd Dim Ond Traed Brain ar gyfrif Trydar Bardd Plant Cymru (@BarddPlant).

O reidio beic i glirio stafell a phigo trwyn… ie’n wir, profiadau diniwed plant sy’n cuddio rhwng cloriau’r gyfrol hyfryd Dim ond Traed Brain, a’r rheini ar ffurf cerddi hwyliog ac ysgafn gan Anni Llŷn.

Mae Anni’n wyneb cyfarwydd iawn fel cyflwynydd a darlledwraig ar S4C ac mae hi, yn ei rôl fel Bardd Plant Cymru, yn crwydro o amgylch ysgolion ar hyn o bryd yn creu cerddi direidus sy’n llawn hwyl a sbri.

Mae disgyblion o ysgolion ar draws Cymru wedi cyfrannu at y fideo fydd yn cael ei rannu i ddathlu lansio’r gyfrol.

Gydag arlunwaith godidog gan y dalentog Valériane Leblond yn gefndir i’r geiriau, mae’n gyfrol hardd tu hwnt.

Dywedodd Sioned Lleinau, uwch olygydd Llyfrau i Blant Gwasg Gomer: "Dyma berl o gyfrol sy’n siŵr o swyno’r llygad a’r glust heb sôn am wneud i chi chwerthin lond eich bol!"

Hel atgofion am y profiadau a gafodd hi fel plentyn ifanc yw prif ganolbwynt Anni yn y cerddi, er enghraifft mynd am wyliau mewn carafán, cael parti pen-blwydd a bwyta sbrowts… a phwy all anghofio am y diwrnod mawr hwnnw ym mywyd pob plentyn pan fyddai’n bryd mynd i siopa am esgidiau newydd? Beth am fentro troi’r tudalennau, felly, a mwynhau gwledd o gerddi lliwgar a chyffrous sy’n siŵr o’ch hudo?

Dewch i ddweud helo wrth Anni Llŷn ar stondin Gwasg Gomer yn Eisteddfod yr Urdd, Sir y Fflint ar ddydd Mercher, 1 Mehefin am 3.30pm!

Mae Dim Ond Traed Brain bellach ar gael yn eich siop lyfrau leol am £5.99 neu’n uniongyrchol oddi wrth y cyhoeddwr, Gwasg Gomer www.gomer.co.uk

Rhannu |