Llyfrau

RSS Icon
10 Mai 2016

Alun yr Arth yn ymuno â thîm pêl-droed Cymru

Mae un o eirth anwylaf Cymru yn ymuno a thîm pêl droed Cymru yn ei antur ddiweddaraf.

Yn Alun yr Arth a’r Gêm Bêl-droed gan Morgan Tomos, caiff Alun y cyfle i ymarfer gyda thîm pêl droed Cymru. Ond, dyw e ddim yn gallu chwarae pêl droed yn dda iawn felly mae’n penderfynu bod yn ddyfarnwr. Ond sut ddyfarnwr yw Alun, tybed?

"Cefais fy ysbrydoli gan lwyddiant tîm pêl droed Cymru ar gyraedd yr Ewros," eglurodd yr awdur, Morgan Tomos wrth drafod beth sbardunodd antur ddiweddaraf Alun.

"Ond fedra i ddim cicio pêl i achub fy mywyd!" ychwanegodd. "Mae hynny’n gyffredin rhwng fi ac Alun!"

Daw Morgan Tomos o Gaernarfon yn wreiddiol ond mae’n byw bellach yn ardal Pwllheli. Mae wedi’i hyfforddi fel animeiddiwr ac mae wrth ei fodd yn teithio o gwmpas ysgolion Cymru yn trafod llyfrau a chynnal gweithdai.

Dyma’r 24ain llyfr i gael ei gyhoeddi yng nghyfres Alun yr Arth. Mae dros 50,000 o lyfrau Alun yr Arth wedi ei gwerthu erbyn hyn ac yn ddiweddar lansiwyd gwefan newydd sbon Alun yr Arth ynghyd ag apiau a chyfrif Twitter. Mae’r gyfres wedi hen hawlio ei lle bellach fel un o gyfresi mwyaf poblogaidd erioed i blant bach dan 7 oed.

Bydd tîm pêl-roed Cymru yn chwarae eu gêm gyntaf yn erbyn Slovakia ar yr 11 o Fehefin yn Bordeuax.

"Dwi’n edrych ymlaen yn fawr at weld campau tîm Cymru yn y bencampwriaeth yn Ffrainc ac mi rydw i ac Alun, ynghyd â chriw Y Lolfa, yn dymuno pob lwc iddyn nhw!" ychwanegodd Morgan.

Mae Alun yr Arth a’r Gêm Bel-droed gan Morgan Tomos (£2.99, Y Lolfa) ar gael nawr.

Rhannu |