Llyfrau

RSS Icon
29 Ebrill 2016

Tu ôl i dwyll Iolo Morganwg - llyfr newydd Aled Evans

Twyll Iolo Morganwg a’i ymgais i gymodi yw pwnc nofel newydd sydd eisoes wedi cael canmoliaeth uchel.

Nofel afaelgar am berthynas Iolo Morganwg ac Owain Myfyr yw Saith Cam Iolo gan Aled Evans.

Buddsoddodd Owain Myfyr tua miliwn o bunnoedd yn ôl ein cyfrif ni mewn cyhoeddi llyfrau a chylchgronau Cymraeg yn ystod y 18fed ganrif.

Wedi pymtheg mlynedd o gydweithio, cyhuddodd Iolo Morganwg o ffugio rhai o’r gweithiau hynny.

Yn Ebrill 1806 drafftiodd Iolo Morganwg ei ateb. Nid anfonodd ef. Ond, beth petai Iolo wedi penderfynu mynd ar droed i Lundain i gwrdd â’i gyhuddwr wyneb yn wyneb.

"Ysgrifennais y nofel hon yn bennaf er mwyn cydnabod camp a chyfraniad Owain Myfyr ac Iolo Morganwg o ran ceisio diogelu a hyrwyddo llenyddiaeth Gymraeg yn ystod ail hanner y 18fed ganrif," eglurodd Aled Evans.

"Ond roedd hi hefyd yn ymgais i geisio dehongli natur y berthynas fu rhyngddynt a'n dealltwriaeth o dwyll a gwirionedd.

"Mae’r nofel hefyd yn sôn am barhad ac mae’n awgrymu taw stori yw ein bywydau ni oll," meddai Aled.

Lluniwyd Saith Cam Iolo ar gyfer cystadleuaeth y Fedal Ryddiaith yn Eisteddfod Genedlaethol Maldwyn a'r Gororau 2015.

Cafodd y gyfrol feirniadaeth a chanmoliaeth uchel gan y beirniaid, Mari Emlyn, Jerry Hunter a Manon Steffan Ros, gan gyrraedd safon teilyngdod.

Daeth yr awdur i ymddiddori yn stori Iolo Morganwg ac Owain Myfyr wrth drefnu taith lenyddol i Lundain ar ran Ysgol Farddol Caerfyrddin.

"Deuthum i ddeall mawredd y ddau gymeriad yn well trwy’r daith honno," meddai Aled.

Daw Aled Evans o Langynnwr ger Caerfyrddin ac mae’n gweithio ym myd addysg. Dyma ei nofel gyntaf ond bu’n ysgrifennu erioed.

"Rwy wastad wedi bod â diddordeb mewn sgrifennu. Bûm yn aelod o'r Ysgol Farddol ers troad y ganrif ac rwy wedi cael fy ysgogi i sgrifennu mwy trwy hynny," eglurodd Aled.

Mae Aled yn cyfrannu’n gyson at gyfrolau Pigion y Talwrn a chyfrannodd hefyd at Beirdd Bro Eisteddfod Sir Gâr.

Bydd lansiad swyddogol y nofel yn cael ei gynnal am 7.30 yh nos Fercher y 18fed o Fai yng Nghlwb y Cwins yng Nghaerfyrddin, sef cartref yr Ysgol Farddol yn ystod y flwyddyn. Bydd y lansiad yn cael ei arwain gan y Prifardd Tudur Dylan.

Mae Saith Cam Iolo gan Aled Evans (£7.99, Y Lolfa) ar gael nawr.

Rhannu |