Llyfrau

RSS Icon
20 Ebrill 2016

Lansio cyfrol gyntaf Prifardd yr Urdd Elis Dafydd

Bydd Elis Dafydd, y bardd ifanc o Drefor wnaeth ennill cystadleuaeth y Gadair yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd yng Nghaerffili 2015 yn lansio ei gyfrol gyntaf o gerddi yn Siop Palas Print, Caernarfon ar nos Wener 22ain o Ebrill fel rhan o weithgareddau Gŵyl Bedwen Lyfrau dros y penwythnos.

Yn ogystal â chynnwys y dilyniant o gerddi ‘Gwreichion’ ddaeth yn fuddugol yn yr Urdd y llynedd, mae’r gyfrol hefyd yn cynnwys ambell gerdd arall sy’n dangos cymaint o ddylanwad fu’r diweddar Iwan Llwyd arno – yn gerddi serch, a cherddi gwleidyddol.

Dyma gyfrol o gerddi sy’n cofleidio, yn cwestiynu ac yn dathlu – cerddi am y profiadau sy’n cyffwrdd i’r byw ac am gyfnod sy’n dod i ben.

Mae’r gyfrol yn gyfuniad synhwyrus o rhythmau sicr a sylwadau praff, ac o hyder bardd ifanc sy’n ceisio gwneud synnwyr o’r byd

 Dyma’r bedwaredd gyfrol i’w chyhoeddi yn y gyfres Tonfedd Heddiw sy’n rhoi llwyfan i feirdd ifanc, disglair.

Chwilio am dân – Elis Dafydd, Cyhoeddiadau Barddas, £5.95

Rhannu |